Mae dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o herwgipio, treisio ac anafu dynes mewn digwyddiad ar draeth Pensarn, Abergele yn oriau mân bore Sadwrn.

Ymddangosodd gerbron ynadon Llandudno heddiw a chafodd ei gadw yn y ddalfa.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio ar i unrhyw dystion a allai fod o gwmpas ar y lle ar y pryd gysylltu â nhw ar 101, gan nodi cyfeirnod U129324.

Meddai’r Uwcharolygydd Alex Goss: “Er ei bod yn ddealladwy y bydd pobl yn bryderus wrth glywed am ddigwyddiadau fel hyn, hoffwn sicrhau’r gymuned leol mai digwyddiad prin a digyswllt oedd hwn.”

Fe fydd y cyhuddiedig yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon y mis nesaf.