Mark Wright yn cael blas o Gymru
Bu un o gogyddion ifanc mwya’ cyffroes Cymru’n gweini Cig Oen Cymru i artistiaid, enwogion a phwysigion yn ystod gŵyl gerddoriaeth fawr yr wythnos ddiwethaf.
Roedd y cogydd ifanc o Sir y Fflint, Luke Thomas wedi sicrhau cytundeb am yr eildro yn flynyddol i weini pryd o fwyd i brif artistiaid gŵyl V Festival yn Chelmsford.
Bu’r cogydd 22 oed yn paratoi ysgwyddau o Gig Oen Cymru mewn menyn oren a harrissa ac yn gweini darnau o’r cig gyda salad pomgranadau, caws feta, nionod coch a mint.
Ymhlith y sêr wnaeth fwynhau tamaid blasus roedd Louise Thompson sydd i’w weld ar Made in Chelsea; Aston Merrygold sy’n canu gyda JLS; y cantorion Conor Maynard a Samantha Harvey; a Mark Wright, seren The Only Way is Essex.
Dywedodd Luke Thomas: “Roedd hi’n gyffrous cael coginio yn y V Festival unwaith eto.
“Y cig oen oedd gwir seren ein sioe ni. Gwnaeth argraff anhygoel ar bawb a fu’n ei flasu.”
Dywedodd Elwen Roberts o Hybu Cig Cymru: “Rydym wrth ein bodd fod Cig Oen Cymru wedi bod mor boblogaidd yn y V Festival ac yn falch dros ben o fod wedi gallu cydweithio â Luke unwaith eto eleni.
“Mae ganddo brofiad a gwybodaeth a dawn sydd y tu hwnt i’w oedran ifanc.”