Mae Heddlu De Swydd Efrog – heddlu achos Hillsborough – yn ystyried cais i gyhoeddi gwybodaeth am farwolaeth un o gefnogwyr Abertawe 16 mlynedd yn ôl.
Mae teulu Terry Coles wedi gofyn am wybodaeth lawn am yr hyn ddigwyddodd pan gafodd y cefnogwr ei sathru gan un o geffylau’r heddlu y tu allan i gêm yn Rotherham.
Dim ond ar ôl i gwest benderfynu mai “damweiniol” oedd y farwolaeth y daeth yn amlwg fod tri o swyddogion yr heddlu wedi wynebu cwynion tros yr hyn ddigwyddodd.
Mae AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, hefyd wedi galw am gyfarfod gyda’r Swyddfa Gartref i drafod yr achos.
Ond mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi gwrthod cynnal ymchwiliad pellach.
Yn ôl yr Aelod Seneddol, mae’r dystiolaeth a ddaeth i’r amlwg yn ymchwiliad Hillsborough wedi agor y drws i holi ymhellach am achosion eraill.