Yr M4 ar gyrion Port Talbot (Chris Shaw CCA2.0)
Mae rhybuddion fod disgwyl tagfeydd traffig sylweddol y penwythnos yma, gyda rhai darnau o ffyrdd yng Nghymru ymhlith y mannau anodd.
Yn ôl cymdeithas yrru yr AA, mae disgwyl y bydd 13 miliwn o bobol ar y ffyrdd tros y penwythnos er mwyn mynd ar wyliau neu drip
Mae traffordd yr M4 o Lundain i gyfeiriad Cymru ymhlith y ffyrdd lle mae disgwyl y tagfeydd gwaetha’ ac, yng Nghymru ei hun, mae pryder am broblemau o amgylch Casnewydd a Phort Talbot.
Yng ngogledd Cymru, yr A55 i mewn o lannau Mersi a gogledd-orllewin Lloegr sydd debyg o fod brysura’.
Gwaith signalau
Fe allai problemau godi ar y rheilffyrdd yn y De hefyd am fod gwaith sylweddol yn digwydd ar signalau yn ardal Bryste.
Mae’r AA yn rhybuddio pobol i fynd â digon o ddŵr gyda nhw rhag ofn iddyn nhw gael eu dal mewn tagfeydd yn y tywydd poeth.