Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am gerbyd BMW1 (model Sport 116d) yn ardaloedd Pensarn, Bae Cinmel, Tywyn, Y Rhyl a Phrestatyn.

Fe gafodd ei ddwyn o ardal Abergeleu yn ystod oriau mân fore Sadwrn, Awst 20. Mae’r heddlu’n rhybuddio y gallai’r platiau rhifau fod wedi cael eu newid erbyn hyn, ond roedd y platiau gwreiddiol yn dechrau ‘CX64″.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw sy’n gweld cerbyd amheus i’w ffonio ar y rhif 101, fel bod swyddogion yn gallu dod allan i wneud yn siwr fod y car dan sylw yn gyfreithlon.