Clwtyn brwnt o fwyty'r Spice of Bengal (Llun: Cyngor Sir Ceredigion)
Mae perchennog ty cyri yn Aberystwyth wedi’i wahardd rhag rhedeg bwytai am oes, oherwydd fod llygod mawr wedi’u canfod yn byw yn ei gegin frwnt.

At hynny, roedd rhai o gynhwysion prydau Irashadur Rahman, 43, wedi’u gorchuddio â baw llygod, ac roedd bwyd dros fis oed yn cael ei ddefnyddio yn y Spice of Bengal, yn ôl tystiolaeth swyddogion iechyd yr amgylchedd Cyngor Sir Ceredigion.

Roedd Irashadur Rahman wedi’i wysio i ymddangos gerbron llys ynadon Aberystwyth yn 2013, ond fe fethodd â throi i fyny i’r gwrandawiad hwnnw. Dim ond newydd lwyddo i ddal i fyny efo’r perchennog y mae’r awdurdodau, wedi iddyn nhw ei arestio yn ei gartre’ yn Romford, Essex.

Mae wedi’i ddirwyo £1,000 ac wedi’i orchymyn i dalu £1,515 o gostau’r llys, a hynny ar ben y gwaharddiad rhag rhedeg na rheoli busnes bwyd eto.