Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw fod Ann Griffith wedi ei phenodi’n Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, Gogledd Cymru – a hynny er bod y penodiad wedi achosi ffrae yn lleol.

Roedd penderfyniad y Comisiynydd, Arfon Jones, i benodi Ann Griffith wedi tynnu nyth cacwn, gyda rhai’n dweud nad oedd gan y Comisiynydd ei hun yr hawl cyfreithiol i enwi ei ddirprwy. Ond mae ganddo’r hawl i wneud hynny.

“Roeddwn wedi fy siomi nad oedd y panel wedi cytuno gyda fy newis, ond mae’r ddeddfwriaeth yn gwbl glir a phendant ar hyn,” meddai Arfon Jones am y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â phenodi dirprwyon.

“Y comisiynydd sydd â’r penderfyniad terfynol am benodi dirprwy… ond wedi dweud hynny, fe wnes i ystyried barn y panel yn ofalus, cyn penodi Ann.

“Dw i’n hyderus fod gan Ann fwy na digon o brofiad ar gyfer y swyddogaeth bwysig yma, ac y bydd hi’n gweithredu gydag anrhydedd ac ymroddiad.”

Mae Ann Griffith yn 55 oed ac yn gynghorydd sir Plaid Cymru ym Môn.