Mae tri dyn wedi’u dedfrydu i gyfanswm o fwy na 18 mlynedd yng ngharchar am ddau ladrad yng Nghaerdydd.

Roedd Tom Colwyn Price, 22, o Rymni; John Henry Janes, 25, o Gaerdydd; a Simon Patrick Dooley, 27, o Fryste, wedi targedu cartrefi teuluoedd Asiaidd lle’r oedden nhw’n gwybod fod yna emwaith aur.

Fe gafodd y tri eu harestio ar Chwefror 22 eleni, wedi iddyn nhw gael eu dal yn y broses o ddwyn o dy yn Lascelles Drive, Pontprennau.

Dedfrydwyd Tom Price i saith mlynedd dan glo; Simon Dooley i wyth mlynedd a thri mis; a John James i dair blynedd yng ngharchar.