Y ty lle bu farw Jac Davies ym Mhontardawe Llun: Ben Wright/PA Wire
Gall teulu plentyn pedair oed a fu farw mewn tân mewn tŷ ger Pontardawe ddechau trefnu ei angladd ar ôl i wrandawiad i’w farwolaeth gael ei agor a’i ohirio.

Roedd Jac Evan Davies yn sownd yn nhŷ ei deulu yn Alltwen, Pontardawe, adeg y tân yn ystod oriau mân fore dydd Mercher, 27 Gorffennaf.

Fe wnaeth ei fam, Jenny, 28, ddianc, gyda’i babi 11 mis oed, a’i merch, Kelsey, sy’n chwech oed.

Cafodd ei mab arall, Riley, sy’n dair oed, ei achub gan ddiffoddwr tân.

Fe glywodd y gwrandawiad i farwolaeth Jac yn Llys y Goron Abertawe fod ymholiadau’r heddlu i’r drasiedi yn parhau.

Ar ôl adnabod y corff yn swyddogol, fe wnaeth y crwner, Colin Phillips, gyflwyno tystysgrif farwolaeth dros dro, er mwyn i deulu Jac ddechrau trefnu ei angladd.

Mae cwest i’w farwolaeth wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn nesaf, gyda’r gwrandawiad cyntaf ar 25 Ionawr.

Mae tudalen ar-lein ‘crowdfunding’ – i godi arian i deulu Jac, bellach wedi cyrraedd £2,000.

Teyrnged mam i’w mab

Fe dalodd Jenny Davies deyrnged emosiynol i’w mab, mewn nodyn y tu allan i’r cartref, wedi’i arwyddo gan “mammy”, Kelsey, Riley ac Andrew.

“Ti yw fy mywyd, fy myd, fy mhopeth ac ni fydda’i fyth yn anghofio dy gwrls melyn hardd. Dos i reidio dy drên i fyny’n y nefoedd ac aros amdana’ i,” meddai.

“Cadw ychydig o’r goleuni hwnnw i mi, ac fe welwn ein gilydd eto un diwrnod rwy’n addo. Bydd Kelsey, Riley, Andrew, yn dy gofio di am byth. Yn ein calonnau am byth.”