Guto Bebb ar faes Y Fenni
Mae cael pobol i feddwl am yr iaith Gymraeg fel rhan “normal” o fywyd teulu yn “sialens” yng Nghymru ac yn San Steffan, meddai’r Aelod Seneddol sydd bellach yn Is-Ysgrifennydd yn Swyddfa Cymru.
Ar ymweliad â maes prifwyl Y Fenni heddiw, roedd Guto Bebb yn canmol pobol Sir Fynwy am ddatblygiad addysg gynradd Cymraeg… ond ar yr un pryd, fe fu’n disgrifio pa mor anodd iddo ef yn bersonol ydi egluro wrth wleidyddion eraill bod yr iaith yn rhan naturiol o’i fywyd.
“Mae pobol yn San Steffan yn methu deall fy mod i’n siarad Cymraeg efo fy mhlant, ac efo fy ngwraig,” meddai Guto Bebb wrth golwg360. “Mae hi’n frwydr i gael pobol i ddeall ei bod hi’n rhan naturiol o fywyd.”
Canmol tîm Cymru
Yn hyn o beth, mae Guto Bebb yn canmol tim pêl-droed Cymru am normaleiddio ei ddefnydd o’r Gymraeg, ac am berswadio eu noddwyr i ddefnyddio’r iaith hefyd.
“Mae o’n debyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn America, a gwerth y Sbaeneg yn cael ei gydnabod wrth hyrwyddo a hysbysebu.
“Mae’n rhaid i ni ddangos fod yna werth a defnydd i ddefnyddio’r Gymraeg fel un o ieithoedd Cymru.”
Dysgu Cymraeg yn Lloegr?
Dydi Guto Bebb ddim yn gwrthwynebu dysgu plant yn Lloegr am yr iaith Gymraeg – ond mae’n dweud fod gan Gymru ei phroblemau ei hun i’r cyfeiriad hwnnw.
“Yn ddelfrydol, wrth gwrs y byddai’n syniad da fod plant o bob rhan o Brydain yn cael dysgu am yr iaith Gymraeg ac am y ffaith bod yna gymunedau dwyieithog…” meddai.
“Ond, mae yna ddiffygion mawr yma yng Nghymru o ran cyflwyno’r Gymraeg i bob disgybl. Mae yna brinder athrawon i wneud y gwaith, ac mae angen mynd i’r afael â hynny yn gynta’, faswn i’n dadlau.
“Mae hi’n sialens. Mae yna ddiffyg dealltwriaeth ar bob lefel, ond faswn i’n dadlau hefyd mai pobol yn y lleiafrif bellach ydi pobol sy’n elyniaethus i’r iaith.
“Be’ sydd angen i ni ei wneud ydi dangos fod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth sy’n fyw trwy’r flwyddyn, ac nid am un wythnos yn unig.”