Nathan Gill Llun: Ukip
Mae Arweinydd UKIP yng Nghymru wedi cyhoeddi llythyr agored yn ymateb i rybudd gan Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) y blaid y gallai gael ei ddiarddel pe na bai’n ildio un o’i swyddi.

Ond, mae Nathan Gill wedi galw’r penderfyniad yn un “annemocrataidd a di-sail.”

Daw ei sylwadau wedi i bwyllgor yr NEC bwyso arno i roi’r gorau i un o’i swyddi, naill ai fel Aelod Seneddol Ewropeaidd neu fel Aelod y Cynulliad ac Arweinydd UKIP yng Nghymru.

Er hyn, mae Nathan Gill yn esbonio y byddai isetholiad yn anorfod pe bai’n rhoi’r gorau i’w rôl fel ASE, ac y byddai hynny’n “gost sylweddol i’r trethdalwr am rôl sy’n debygol o dynnu tua’i derfyn yn y dyfodol agos.”

Ac o ran parhau fel Aelod Cynulliad dywedodd, “mae fy ymrwymiad yn aros gyda’r pleidleisiwr yn gyntaf, yn hytrach na dymuniadau unigolion yr NEC.”

‘Niweidiol i enw da UKIP’

“Ar ôl degawd o wasanaeth ymroddedig i’r blaid, ar ôl cynnal yr ymgyrch yng Nghymru fel Arweinydd UKIP, gan sicrhau saith sedd yn y Cynulliad , ac â hanes hollol lân, byddai ceisio fy ngwaredu o’r blaid gan ystyried canlyniadau’r gweithredoedd hyn yn niweidiol iawn i enw da UKIP,” meddai Nathan Gill yn ei lythyr.

Dywedodd y dylai penderfyniad yr NEC fod wedi cynnwys ystyriaeth lawn gan y Cadeirydd a’r Arweinydd, gan bwysleisio y bydd y rheiny yn newid dwylo yn fuan.

“Nid yw cymryd dwy swydd yn rhywbeth rwy’n ei wneud heb ystyriaeth a does dim mantais bersonol, breifat neu ariannol imi dros gynnal dwy swydd etholedig,” meddai.

“Mae angen imi ymddwyn fel pont hollbwysig rhwng Brwsel â’r Cynulliad Cenedlaethol tra bod trafodaethau Brexit yn cael eu cynnal,” ychwanegodd.

Mae Nathan Gill wedi cynrychioli’r Senedd yn Ewrop ers 2014, ac ym mis Mai eleni fe ddaeth yn Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.