Elinor Gwynn a'i choron
Elinor Gwynn, merch o Gaerdydd a Chaerfyrddin yn wreiddiol, sydd bellach yn byw yn Rhostryfan, sydd wedi ennill cystadleuaeth Y Goron, yn Eisteddfod y Fenni eleni.

Fe gafodd ei hysbrydoli gan alar, gyda cherddi’n codi o golli ei thad a ffrind agos a’r daith trwy alaru amdanyn nhw.

Dywedodd y beirniaid, Siân Northey, Menna Elfyn ac Einir Jones, eu bod wedi cytuno’n unfrydol mai Elinor Gwynn, dan y ffugenw, Carreg Lefn, oedd yn haeddu’r brif wobr, a hynny o blith 33 o gystadleuwyr.

‘Llwybrau’ oedd thema’r gystadleuaeth eleni, a’r dasg oedd creu casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau.

Llwybr galar

Mae’r cerddi’n dangos diddordeb Elinor Gwynn ym myd natur a thirwedd, gyda cherddi’n disgrifio teithiau i fannau amrywiol fel prom Aberystwyth a’r grib o fynyddoedd uwch Cwm Maesglasau ger Dinas Mawddwy.

Mae pob un yn dilyn taith arbennig ond yn rhan o daith fwy wrth ddelio gyda galar a hiraeth. Mae un gerdd yn trafod dryswch meddwl.

Roedd y beirniaid yn canmol ei gallu i greu darluniau, gydag un o’r tair, Menna Elfyn, yn dweud ei bod yn teimlo ei bod allan ar y teithiau wrth ddarllen y cerddi.

Roedd Elinor Gwynn wedi dod yn agos at gipio’r Goron fwy nag un waith o’r blaen.

Cymharu’r gwaith i gelf

Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd Siân Northey: “Mae yna rhai pobl ’da chi’n gwirioni efo nhw’r eiliad ydach chi’n eu cyfarfod, mae yna eraill y dowch i’w deall a’u caru dros gyfnod o amser. Perthyn i’r ail griw oedd gwaith Carreg Lefn i mi, ac i Einir dw i’n credu, tra bu i Menna ymserchu ar y darlleniad cyntaf.

“Mae Menna ac Einir yn eu beirniadaethau wedi cyffelybu’r cerddi i waith celf. A darluniau gawn ni yma, darluniau celfydd a gwreiddiol ac fel y dywed Menna “heb ffrils na ffiloreg”.

“Cawn ein tywys ar hyd gwahanol lwybrau i weld y pethau a welodd Carreg Lefn – y gŵr â dementia yn mynnu cael hyd i garreg y cred bod ysgrifen arni, y traeth a gerddodd y bardd ar ei hyd y llynedd hefyd, y profiad o grwydro’r prom rhywbryd rhwng nos a dydd.

“Rhaid dilyn y bardd ac ymddiried ynddo ei fod yn dangos pethau o bwys i ni, ac y mae’r bardd yntau’n ymddiried yn ei waith ac yn ymddiried yn ei ddarllenydd i wneud yr hyn a fynno o’i gerddi.

“Arwydd o gasgliad da, o gasgliad cyson ei safon, yw ei bod yn anodd penderfynu pa linellau i’w dyfynnu. Ond nid oes raid i mi boeni, gan ei fod yn bleser cyhoeddi bod y tair ohonom yn gytûn mai Carreg Lefn sydd yn llwyr haeddu coron Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau.”

Diddordeb mewn gwyddoniaeth

Ar ôl astudio Swoleg  a Botaneg, mae’r bardd buddugol wedi dilyn gyrfa yn y maes amgylcheddol ac wedi gweithio mewn sawl rhan o Gymru yn gofalu am dirweddau, cynefinoedd, a bywyd gwyllt, yn arfordir sir Benfro, Canolbarth a Gororau Cymru, Eryri a Phen Llŷn.

Dywed bod ganddi ddiddordeb yn y berthynas rhwng iaith a thirwedd, ac mae ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect treftadaeth iaith i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

Mae hefyd yn gobeithio dechrau cyn hir ar waith a fydd yn edrych ar y cysylltiad rhwng iaith ac ecoleg ar hyd arfordir y gorllewin.

Mae hi’n cipio’r Goron sydd wedi’i “hysbrydoli gan ardal Sir Fynwy”, gan yr artist lleol, Deborah Edwards.

Dyma oedd y tro cyntaf i dair merch feirniadu prif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.