Jake Frederick Rees Llun: Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn 26 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Y Porth, Rhondda Cynon Taf ddydd Sadwrn.

Fe fu car Ford Fiesta coch Jake Frederick Rees, o Donypandy mewn gwrthdrawiad ar yr A4223 yn Heol Nant-y-Gwyddon, Y Porth, toc wedi 2yb yn oriau man fore Sadwrn, 30 Gorffennaf.

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn “dad cariadus i’w fab pedair oed, Hudson” ac y byddai colled fawr ar ei ôl.

Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod 1600287234.