Mae 115 o weithwyr mewn ffatri gemegol yn y Barri wedi colli eu swyddi, wrth i’r cwmni rhyngwladol, Dow Chemical, sy’n cynhyrchu nwyddau silicôn, geisio arbed 2,500 o swyddi ledled y byd.
Cafodd gweithwyr wybod bod eu swyddi yn y fantol ym mis Mehefin. Bryd hynny, fe ddywedodd penaethiaid y cwmni y byddai cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod yn dechrau ddiwedd y flwyddyn.
Mae 629 o weithwyr ar y safle ym Mro Morgannwg, sef un o ffatrïoedd cynhyrchu mwyaf y cwmni.
Mae’r ffatri wedi bod yn cynhyrchu silicôn ers 1952 dan yr enw Midland Silicones yn wreiddiol, tan i Dow Corning, rhiant gwmni Dow Chemical, ei brynu yn 1971.