Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, yn awyddus i ddatblygu dwyieithrwydd y gamp yng Nghymru
Fe fydd cynrychiolydd o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn ymweld â Chlwb Criced Morgannwg nos Wener i weld y cynnydd mae’r clwb wedi’i wneud wrth ymdrin â’r iaith Gymraeg.
Cafodd y swyddfa wahoddiad i fynd i stadiwm y Swalec SSE yng Nghaerdydd, wrth i Forgannwg herio Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.
Mae Criced Cymru’n awyddus i annog y defnydd o’r Gymraeg ymysg clybiau criced ledled Cymru ac mewn partneriaeth â Morgannwg, fe fyddan nhw’n lansio ymgyrch i hybu manteision y Gymraeg i glybiau ym mhob camp.
Ddwy flynedd yn ôl, cafodd cynhadledd ei threfnu ar y cyd rhwng Comisiynydd y Gymraeg a Chwaraeon Cymru, lle dangosodd y Comisiynydd y math o gefnogaeth fyddai modd iddi ei rhoi iddyn nhw er mwyn cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Yn dilyn y gynhadledd honno, cafodd pecyn ‘Y Gymraeg: Amdani!’ ei lansio yn y Ganolfan Bêl-droed Genedlaethol.
Dilyn esiampl y byd pêl-droed yng Nghymru
Yn dilyn llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016 yn Ffrainc a’r rhan y mae’r gystadleuaeth honno wedi’i chwarae wrth godi proffil Cymru a’r Gymraeg, mae’r Comisiynydd yn gobeithio y gall campau eraill ddilyn esiampl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dywedodd Meri Huws wrth Golwg360: “Mae’r ffaith fod y Gymdeithas Bêl-droed wedi cofleidio’r Gymraeg fel rhan o’r ymgyrch mas yn Ffrainc wedi dangos i’r byd fod gennym yng Nghymru ein hiaith ein hunain a’i bod yn rhywbeth i fod yn falch ohoni.
“Bellach, rydym yn gweld cwmnïau mawr rhyngwladol yn defnyddio’r Gymraeg wrth farchnata, a dylai hynny roi neges gref i gwmnïau yma yng Nghymru i fynd amdani ac i beidio bod ag ofn defnyddio’r iaith.
“Mae’n sicr wedi agor drysau i ni ac eraill i drafod defnydd o’r Gymraeg ar lefel mwy hirdymor gyda busnesau.”
Tu hwnt i’r maes chwarae
Ond mae’r Comisiynydd am weld y defnydd o’r Gymraeg yn mynd y tu hwnt i fusnesau a’r byd chwaraeon hefyd.
“Mae chwaraeon yn rhan ganolog o fywydau llawer o bobl yng Nghymru – boed nhw yn cymryd rhan eu hunain, yn anfon eu plant i glybiau chwaraeon, yn gwirfoddoli neu’n cefnogi.
“Mae’n bwysig felly bod y meysydd chwarae a’r sesiynau hyfforddi yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru, lle mae’r Gymraeg yn cael ei gweld, ei chlywed a’i defnyddio yn rhan naturiol o fywyd bob dydd y genedl.
“Gall cynyddu darpariaeth Cymraeg ym myd chwaraeon gynnig cyfleoedd hollbwysig i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol tu allan i’r ysgol.
“Mae cymdeithasau fel Criced Cymru a chlybiau fel Morgannwg yn cydnabod bod llawer o waith i’w wneud o hyd, ond mae’r ymgyrch hon yn gam yn y cyfeiriad cywir wrth hybu’r Gymraeg.”