Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, Llun: PA
Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw bod cwmni peirianneg sy’n ymwneud a’r diwydiant dur ym Mhort Talbot wedi mynd i’r wal, mae AC Plaid Cymru’n galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru.

Roedd Fairwood Fabrications wedi bod yn gweithio’n agos â’r diwydiant dur ym Mhort Talbot am dros 35 mlynedd. Bydd 250 o swyddi’n cael eu colli ar ôl i’r cwmni fynd i’r wal.

Yn ôl Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru, rhaid dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif dros y golled gan fod y cwmni wedi dweud mai diffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth oedd un o’r rhesymau dros roi’r gorau i fasnachu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 nad oedd yn teimlo y gallai roi “cymorth ariannol pellach o ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan y cwmni.”

‘Cwestiynau difrifol i’w hateb’

Wrth annog Llywodraeth Cymru i wneud datganiad brys ar y mater, dywedodd Bethan Jenkins: “Rwy’n cydymdeimlo gyda phawb sy’n ymwneud a Fairwood Fabrications, yn enwedig y 250 o weithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi.

 “Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru gwestiynau difrifol i’w hateb a rhaid eu dwyn i gyfrif am eu methiant llwyr i gynnig cefnogaeth ddigonol i’r diwydiant yn ystod yr hyn sydd eisoes yn gyfnod anodd.

“Roedd y cwmni eisoes wedi mynd at y Llywodraeth i wneud cais am gymorth cyllidol er mwyn ailstrwythuro, ond cafodd y cais ei wrthod.

“Rhaid i’r Ysgrifennydd Cabinet nawr gyhoeddi datganiad brys yn egluro diymadferthedd y Llywodraeth ar hyn. Mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le.

“Mae’r diwydiant dur cyfan yn wynebu cyfnod o ansicrwydd mawr.

“Drwy fethu cyflawni ei chyfrifoldeb i warchod y sector hollbwysig hwn, mae Llywodraeth Lafur Cymru’n dwysau’r poendod a’r amheuaeth sy’n effeithio’r miloedd o bobl sydd a’u bywoliaeth yn dibynnu ar y diwydiant hwn.”

‘Newyddion trist’

 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae hyn yn newyddion trist i Bort Talbot, ac yn enwedig i’r gweithwyr a’u teuluoedd.

“Yn anffodus nid yw’r cyhoeddiad yn un hollol annisgwyl o ystyried yr ansicrwydd o gwmpas Tata a’r diwydiant dur ehangach. Yr ydym wedi bod yn trafod gyda Fairwood am rai misoedd ynghylch eu safle a chymorth posibl gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi darparu hyn lle bo modd gan gynnwys cymorth drwy’r rhaglen Sgiliau Cymorth Hyblyg.

“Fe wnaeth Fairwood gysylltu â Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin yn holi am £200,000, fodd bynnag, roeddem yn teimlo na allem roi cymorth ariannol pellach o ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan y cwmni.

“Rydym yn barod i weithio gyda phob parti i sicrhau bod yr holl opsiynau yn cael eu harchwilio i helpu’r rhai sydd wedi colli eu swyddi yn ôl i gyflogaeth.”