Y Fali - mynedfa (BrianP CCA2.0)
Mae un o gyn-gynghorwyr ac uwchswyddogion Ynys Môn, John Arthur Jones, wedi ei gael yn euog o 13 o gyhuddiadau o beryglu awyrennau drwy fflachio golau atyn nhw.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Awst.

Roedd John Arthur Jones, 66, o Fodffordd wedi gwadu peryglu awyrennau’r Awyrlu o faes awyr Y Fali yng ngogledd-orllewin yr ynys rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod swyddogion cudd yr heddlu wedi cael eu defnyddio i ymchwilio i weithgareddau John Arthur Jones ac wedi ei weld yn fflachio goleuadau at awyrennau.