Glyn Rhonwy, Llanberis
Mae cwmni oedd yn gobeithio bwrw ymlaen gyda chynllun ynni dŵr ger Llanberis wedi tynnu eu cais am drwydded amgylcheddol yn ôl.

Roedd Snowdonia Pumped Hydro yn gobeithio cael trwydded amgylcheddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prosiect ar safle Glyn Rhonwy.

Ond heb y drwydded, dydy hi ddim yn bosibl i’r cynllun fynd yn ei flaen.

Sut mae’r broses yn gweithio?

Mae’r drwydded amgylcheddol ar wahân i’r broses gynllunio, sy’n  cael ei rheoli gan Gyngor Gwynedd a’r Arolygiaeth Gynllunio.

Er mwyn gweithredu’n gyfreithlon, rhaid bod gan y cwmni sy’n gwneud cais drwydded amgylcheddol yn ogystal â chaniatâd cynllunio.

Ond yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, dydy’r cwmni ddim wedi rhoi digon o dystiolaeth am y ffordd y mae’n rhedeg y cynllun o ddydd i ddydd, ac mae prinder gwybodaeth dechnegol hefyd.

Bydd rhaid i Snowdonia Pumped Hydro benderfynu a fyddan nhw’n cyflwyno cais mwy manwl.

Diffyg gwybodaeth

Mewn datganiad, dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, Dylan Williams: “Mae Llyn Padarn yn ased naturiol hanfodol bwysig i’r ardal. Mae’n bwysig i’r economi leol, i fywyd gwyllt ac i bobol.

“Rydyn ni ond yn rhoi trwydded amgylcheddol os ydyn ni’n hollol fodlon fod cynlluniau cwmni’n profi y bydd yn gweithredu’n ddiogel, heb niweidio’r amgylchedd neu gymunedau lleol.

“Fodd bynnag, dydy’r ymgeisydd ddim wedi rhoi digon o wybodaeth i ni fedru gwneud y penderfyniad hwnnw, ac mae wedi tynnu’r ceisiadau’n ôl.

“Pe bai’r ceisiadau wedi cael eu penderfynu ar sail y wybodaeth a gafodd ei darparu, mi fydden nhw wedi cael eu gwrthod.”