Mark Isherwood
Byddai gan Gymru well economi pe bai Prydain yn dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos nesaf, yn ôl un o Aelodau Cynulliad y gogledd.

Mae’r Ceidwadwr Mark Isherwood yn honni y byddai Llywodraeth Prydain yn dal i gefnogi’r economi Gymreig a’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru, a hynny gymaint â Senedd Ewrop, , os nad mwy.

Pe bai Brexit yn digwydd ar 23 Mehefin, byddai cymorth i ffermydd a chyllid Cymru yn “fater i Lywodraeth y DU, gan ymgynghori gyda’r gwledydd datganoledig,” meddai.

“Gan fod y DU yn gyfrannwr mawr i’r UE, byddai mwy o arian ar gael [yn dilyn pleidlais i adael].”

Ond mae un o hoelion wyth Plaid Cymru yn dweud bod Cymru’n cael mwy o fudd o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd nag unrhyw ran arall o Brydain

“Rydym yn cael £245 miliwn yn fwy na rydym yn ei gyfrannu [I’r Undeb Ewropeaidd], ac mae hynny cyn i chi ystyried pwysigrwydd y farchnad sengl, sy’n werth £5 biliwn i’n busnesau ac yn cefnogi 200,000 o swyddi,” meddai’r  Arglwydd Dafydd Wigley yn ei golofn yn y Daily Post.

Mae Cymru’n cael yr arian hwn drwy grantiau o’r UE, ac mae hynny wedi’i sicrhau tan o leiaf 2020.

Dadl cefnogwyr Brexit yw nad oes sicrwydd y cawn ni’r un swm wedi’r flwyddyn honno, ond mae’r ochr sydd eisiau aros yn honni y byddai unrhyw doriadau yn annhebygol iawn.

Yn ôl Mark Isherwood, os na fydd Cymru’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd, bydd ei chyllid yn cael ei bennu gan “wleidyddion sy’n atebol i etholwyr Cymru”.

Ffermwyr

Hefyd mae Isherwood yn honni na fyddai pleidlais tros adael yn niweidio ffermwyr, gan ddweud y byddai’r sector yn dal i gael ei sybsideiddio gan Lywodraeth Prydain.

“Mae Gweinidog Ffermio’r DU wedi dweud yn glir y byddai’r Llywodraeth yn parhau i roi o leiaf yr un faint o gefnogaeth i ffermwyr a’r amgylchedd ag y maen nhw’n cael nawr,” meddai Mark Isherwood.

Yn ôl Dafydd Wigley, byddai Brexit yn glec i allu ffermwyr i allforio eu cynnyrch o fewn yr UE, gyda 90% o’n cig oen yn cael ei werthu i wledydd o fewn y farchnad sengl.

Mae hyn, meddai, yn golygu ei fod yn “hanfodol” i ffermwyr Cymru gadw eu mynediad i’r gwledydd hynny.