Ar drothwy’r refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar Fehefin 23, fe ddaeth ymgyrch Llafur Cymru tros aros i Gampws y Bae ym Mhrifysgol Abertawe neithiwr.

Yno fe fu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn amlinellu’r manteision i Gymru o fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Bu Alun Rhys Chivers yn ei holi ar ran golwg360

Pam ddylai pobol Cymru bleidleisio i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd?

Dau reswm yn enwedig. Swyddi – fi di delio gyda busnesau sy yng Nghymru’n barod a hefyd rheiny sy’n edrych i fuddsoddi yng Nghymru, ac iddyn nhw, maen nhw’n moyn dod i’r farchnad Ewropeaidd. Os ydyn ni ddim yn rhan ohono fe, ddewn nhw ddim. Pam fydden nhw? Bydden nhw am fynd i’r farchnad Ewropeaidd sydd lawer yn fwy na Phrydain Fawr. Bydden ni’n colli swyddi yn y pen draw, a fyddai’r swyddi ddim yn dod. Bydden nhw’n mynd i Iwerddon, Ffrainc a’r Almaen. Pobol Cymru fyddai’n colli mas o achos hynny.

Yn ail, ry’n ni’n gwybod fod arian yn dod o Frwsel i Gymru ar hyn o bryd. Bydde fe’n mynd i Lundain yn lle hynny [pe bae Brexit]. Rwy’n gwybod o brofiad faint o ffrae fyddai’n digwydd i gael yr arian ‘na nôl o Lundain. Mae rhai pobol yn dweud ‘Ni’n rhoi mwy o arian mewn nag y’n ni’n cael nôl’. Wel, nid felly mae hi yng Nghymru o gwbl. Does dim gwarant o gwbl na fydden ni’n colli mas yn ariannol os bysen ni’n gadael.

Mae’r polau’n awgrymu y gallai’r bleidlais fod yn un agos. Beth sydd angen i chi ei wneud hyd at ddyddiad y refferendwm i annog pobol i bleidleisio i aros?

Mae ‘na ddau issue mae pobol yn canolbwyntio arnyn nhw. Mewnfudo yw un, a’r llall yw swyddi. Ry’n ni’n gwybod fod mewnfudo wedi bod yn fater pwysig i lawer o bobol.  Fi’n dweud wrth bobol, ‘Edrychwch ar y Swistir’. Mae ’na fwy o fewnfudo fynna a ’dyn nhw ddim yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Beth sy’n bwysig yw bo ni’n sicrhau bod pobol ddim yn dod i swyddi lle maen nhw’n cael eu talu llai na’r tâl isaf a bo nhw’n cystadlu’n annheg yn erbyn pobol sydd ym Mhrydain Fawr, ac mae’n bwysig dros ben i’w stopio nhw rhag cael eu hecsbloetio. Os edrychwn ni arno fe fel hyn. Mae ’na lawer o gwmnïau yng Nghymru sy’n defnyddio Cymru fel sylfaen i fynd mewn i’r farchnad Ewropeaidd. Os byse ddim modd cael mynediad i’r farchnad hynny, allen nhw ddim sefyll. Bydden nhw’n mynd i wledydd eraill sydd â mynediad i farchnad sy ddim mor fawr.

Oes perygl bod y ddadl ynghylch mewnfudwyr yn cuddio’r materion go-iawn yn Ewrop?

Fi’n credu bod e. Un peth mae’n rhaid i ni gofio yw, mae ’na reolaeth ar hyn o bryd ynglŷn â meysydd awyr yn enwedig. Mae pobol yn gorfod dangos pasbort. Mae hynna yna nawr. Beth, felly, fyddai’r gwahaniaeth yn y pen draw? Beth sy’n bwysig yw bo ni’n canolbwyntio ar y ffaith fod ’na filoedd ar filoedd o bobol yng Nghymru yn dibynnu am eu bywoliaeth ar swyddi sydd ar gael mewn cwmnïau sydd yma o achos y ffaith bo nhw’n rhan o strwythur Ewropeaidd. Os bysen ni ddim yn rhan o’r strwythur hynny, mae’r cwmnïau ’na yn mynd i fynd, ddim dros nos ond yn y diwedd, maen nhw’n mynd i fynd i le maen nhw’n gallu cael mynediad i’r farchnad fawr.

Beth yw pwysigrwydd aros yn Ewrop i’r byd amaeth?

Dau beth. Yn gyntaf, mae ffermwyr yn cael £260 miliwn ar hyn o bryd o’r Undeb Ewropeaidd. Fyddai hynna’n dod o Lundain? Sa i’n credu, ac rwy ’di delio gyda nhw. Dydyn nhw ddim yn meddwl lot am ffermwyr defaid ’ta beth. Ond bydden nhw’n dweud wrthon ni, ‘Bois, y’n ni’n mynd i roi arian i chi fel rhan o’r Barnett Formula, ond chi sy fod i dalu’. Mae’n lot o arian i ni ei ffeindio.

Yn ail, mae ffermwyr cig oen Cymru yn enwedig, ond nid dim ond nhw, yn dibynnu ar y farchnad dramor, yn enwedig Ewrop. Os bysen ni ma’s o’r farchnad Ewropeaidd, heb os nac oni bai, byddai tariffs yn cael eu dodi ar gig o Gymru. Byddai’r cig ’na’n ddrytach yn Ewrop ac felly, byddai llai o farchnad am gig oen o Gymru a byddai’r pris yn cwympo.

Os glywch chi bobol sy’n ymgyrchu i adael, maen nhw’n siarad am gael cytundebau gyda gwledydd fel Seland Newydd. Beth mae hynna’n meddwl yw fyddai mwy o gig oen tsiep yn dod o Seland Newydd. I ffermwyr Cymru, does dim modd bod mewn sefyllfa well os bysen ni ddim yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ydy’r ymgyrchu trawsbleidiol wedi gweithio’n dda o ystyried eich bod chi wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn eich gilydd yn etholiadau’r Cynulliad?

Smo fe wedi helpu. Ddywedes i wrth David Cameron y bydde fe’n amhosib i gael ymgyrch drawsbleidiol tra bod ’na ymgyrch etholiad yn digwydd. Mae hynna’n amlwg, fydden i’n meddwl. Ry’n ni’n gorfod chwarae tamaid bach o ‘catch up’ o achos hynny. Er hynny, mae’r pleidiau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd ar hyn o bryd. Ond byddai’n well ’da fi os byse’r refferendwm yn yr hydref eleni neu’r flwyddyn nesaf. Byddai wedi bod lawer rwyddach o ran sicrhau bod yr ymgyrch i sefyll mewn yn gallu bod yn fwy effeithiol.

Pe bai pobol Cymru’n pleidleisio i aros a gweddill Prydain yn pleidleisio i adael, lle byddai hynny’n gadael Cymru?

Mae’n anodd onid yw e. Dyw e ddim yn amhosib fod Cymru’n pleidleisio i adael a bod Lloegr yn pleidleisio i sefyll. Mae’n gweithio’r ddwy ffordd. Beth ddywedodd John Major a Tony Blair heddiw, maen nhw’n iawn. Byddai pobol yr Alban yn ail-feddwl y sefyllfa. Mae’n wir beth sy’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon – mae ’ngwraig i’n dod o Belfast – ac mae hi wedi dweud ers wythnosau y bydd y ffin rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar ynys Iwerddon. Allwn ni ddim jyst dweud bo ni’n cario ’mlaen fel mae e. Mae pobol yn gallu croesi’r ffin fynna heb unrhyw fath o basbort. Os ydych chi’n dweud bod rhaid cael rhywfath o reolaeth pasbort yn fynna, ry’ch chi’n mynd nôl i’r hen ddyddiau pan oedd problemau mawr yn y rhan yna o’r byd.

Roedd yna ddadl yn San Steffan ddydd Mercher am yr hawl i gael siarad Cymraeg. Mae agwedd yr Undeb Ewropeaidd at y Gymraeg yn hollol wahanol, on’d yw e…

Ydy. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gyfarwydd â delio â llawer o wledydd lle mae ’na sawl iaith. Dwy wlad yn Ewrop yn gyfan gwbl sydd ag un iaith, sef Portiwgal a Gwlad yr Iâ. Mae pob gwlad arall â rhyw fath o iaith… y term yw ‘lleiafrifol’… ond iaith sy ddim yn brif iaith y wlad. Mae wedi bod yn help i ni sicrhau ar lefel Ewropeaidd fod y Gymraeg wedi cael ei hadnabod fel iaith. Mae’n bwysig dros ben. Ac wrth gwrs, mae e’n help i ni ddelio â rhannau eraill o Ewrop sy yn yr un sefyllfa â ni fel Gwlad y Basg, Catalwnia, lle mae ’na ieithoedd ’da nhw, ac wrth gwrs i ddeall beth yw eu profiad nhw.

Fe glywson ni eisoes fod yr Aelod Seneddol Ceidwadol Dr Sarah Woollaston wedi newid ochr ac o blaid aros erbyn hyn. Ydy hyn yn mynd i osod cynsail i bobol eraill yn y cyfnod sydd i ddod?

Mae’n anodd gwybod. Y broblem yw fod y ddadl wedi cael ei dominyddu gan ddau grŵp o ‘fois’ – dyna beth ydyn nhw – o’r ysgolion bonedd. Mae’n edrych fel rhyw fath o goethan rhwng y ddau. Fel un sydd wedi bod i ysgol gyfun, beth sy’n bwysig i fi yw dyfodol gweithwyr a phobol Cymru. Tu fa’s i’r Undeb Ewropeaidd, dwi ddim yn gweld bod y dyfodol ’na’n mynd i fod mor gryf o bell. Mae hynny wedi bod yn broblem. Ac mae ’na bobol nawr sy ddim yn hoffi beth mae Nigel Farage wedi dweud – mae e nawr yn dweud fod dim eisiau cytundeb masnachol o gwbl gydag unrhyw wlad. Twpdra yw hwnna. Se hwnna’n digwydd, fyddai dim gobaith.

Dadl arall tros adael yw’r gost o aros yn Ewrop. Sut mae modd amddiffyn y costau hynny?

Sdim cost i ni. Ni’n cael lles o’i achos e. Ry’n ni’n cael lot mwy nôl yng Nghymru na beth y’n ni’n dodi mewn. Does dim dadl yng Nghymru o gwbl bod hwn yn rhywbeth sy’n bwysig i ni.

Ydych chi’n credu bod y trafferthion technegol wrth gofrestru i bleidleisio wedi cael effaith i’r naill ochr neu’r llall?

I fi, mae’n rhywbeth da dros ben fod pobol moyn cofrestru i bleidleisio am unrhyw beth. Mae hynny’n dda i ddemocratiaeth. Dwi’n credu bod David Cameron wedi dweud y peth iawn, mae angen sicrhau bod mwy o bobol nawr yn mynd i allu cofrestru yn y pen draw achos y problemau technegol wnaeth godi. Mae’n braf i wybod fod pobol eisiau sicrhau bo nhw’n gallu pleidleisio mewn unrhyw fath o etholiad.

Un o’r pethau wnaethoch chi gyffwrdd arno fe yn eich araith yw fod yna fanteision amlwg i brifysgolion o aros yn Ewrop…

Mae e. Fyddai’r prifysgolion ddim yn gallu cystadlu yng Nghymru na’r Deyrnas Unedig. Mae’r farchnad addysg uwch yn farchnad fyd-eang ac mae’n rhaid i rywun gael mynediad i’r arbenigedd – ac arbenigedd ymchwil yn enwedig – er mwyn bo nhw’n gallu elwa yn y pen draw.