Alun Davies (Llun Cynulliad)
Mae ymgyrchwyr iaith yn honni bod y Gymraeg yn cael ei hisraddio wrth i’r Prif Weinidog drosglwyddo’r cyfrifoldeb am yr iaith i weinidog ail reng

Wrth gyhoeddi enwau aelodau ei lywodraeth newydd wedi’r etholiad, fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai’r iaith, yn ogystal ag Addysg Gydol Oes, ym mhortffolio Alun Davies, sydd wedi cael ei benodi’n Weinidog ond heb fod yn y Cabinet.

Ond mae’r Gymdeithas yn cydnabod bod Alun Davies yn cefnogi rhai o’u prif ofynion ac maen nhw wedi galw ar iddo gael sedd yn y Cabinet.

‘Angen llais yn y Cabinet’

Pryder Cymdeithas yr Iaith yw fod diffyg llais yn y Cabinet yn israddio’r iaith, er eu bod yn canmol Alun Davies.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag Alun, yn enwedig ar addewid y Blaid Lafur i anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Os yw’r Llywodraeth am gyrraedd y targed yna, mae rhaid sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg a symud yn gyflym at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.

‘Gweinidog abl iawn’

“Rwy’n siŵr y bydd Alun yn awyddus i greu argraff yn y swydd,” meddai Jamie Bevan. “Fodd bynnag, mae’n destun pryder na fydd e, fel gwleidydd abl iawn, yn aelod llawn o’r cabinet.

“Dylai Carwyn Jones unioni’r camgymeriad yna’n syth a’i roi yn y cabinet fel bod y Gymraeg yn cael y sylw y mae’n ei haeddu.

“Wedi’r cwbl, mae’n bwysig iawn bod y Gymraeg yn cael ei ystyried ar draws y portffolios yn y Llywodraeth.”