Araith y Frenhines Llun: www.parliament.uk
Mae diwygio carchardai, prifysgolion, mabwysiadu a gwasanaethau gofal ar yr agenda wrth i’r Frenhines gyflwyno’i haraith flynyddol yn San Steffan heddiw.

Ac mae yna addewid i gyflwyno deddfwriaeth i ddatganoli rhagor o rym i Gymru.

Ymhlith y mesurau technolegol sy’n cael sylw yn yr araith mae deddfwriaeth i ddatblygu meysydd rocedi masnachol, ceir di-yrrwr a’r defnydd o ddronau gan fusnesau ac unigolion.

Mae’r hawl i bob cartref gael cyswllt band llydan cryfach hefyd yn cael sylw..

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron fod y pecyn o fesurau’n “Araith Frenhines Un Genedl gan Lywodraeth Geidwadol Un Genedl flaengar”.

Ewrop

Mae Araith y Frenhines yn cael ei hystyried yn un o uchafbwyntiau’r byd gwleidyddol yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn ond eleni, mae hi’n eilradd i’r trafodaethau ynghylch y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar Fehefin 23.

Ond dim ond cyfeiriad ffwrdd-â-hi sydd at y refferendwm yn yr araith, gan atgyfnerthu barn David Cameron nad yw aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn golygu colli annibyniaeth yn y Deyrnas Unedig.

Mae 21 o fesurau yn yr araith, gan gynnwys rhoi mwy o reolaeth i lywodraethwyr dros garchardai, a gwella addysg a dulliau adfer carcharorion i’w paratoi i gael eu rhyddhau o’r carchar.

Mae gweinidogion San Steffan yn dweud mai dyma’r “diwygio mwyaf ar ein carchardai ers Oes Fictoria”.

Mesurau eraill

Mae’r Bil Addysg Uwch ac Ymchwil bellach yn ei gwneud hi’n haws i agor prifysgolion newydd, tra bydd rhaglen ddadleuol y llywodraeth i agor academïau yn Lloegr yn cael ei hymestyn drwy Fil Addysg i Bawb.

Mae’r Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol yn ehangu ar ganllawiau’r llysoedd ar gyfer mabwysiadu plant, a bydd plant mewn gofal yn derbyn mwy o gefnogaeth i’w paratoi ar gyfer yr adeg pan fyddan nhw’n gadael y system ofal.

Mae’r Bil Gwrth-Eithafiaeth a Diogelwch yn bwriadu cwtogi ar eithafiaeth, gan gynnwys torri ar weithgarwch radicaliaid yn y gymuned ac mewn ysgolion.

Mae Bil Hawliau Prydeinig hefyd yn disodli’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Mae’r araith hefyd wedi rhoi sylw i ynni niwclear Trident, ond dydy hi ddim yn glir o hyd a fydd pleidlais ar y defnydd o longau tanfor eleni.

Mae’r Bil Isadeiledd yn ei le hefyd i gyflymu’r broses gynllunio, tra bydd Bil Twf a Swyddi Lleol yn galluogi cynghorau i gadw cyfraddau busnes a’u hailfuddsoddi.

Mae’r Bil Economi Ddigidol yn ei gwneud hi’n haws bellach i ddarparwyr sefydlu cyswllt band llydan cyflymach a gwella cyswllt symudol.