Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi rhybuddio bod diffyg darpariaeth gofal plant rhad yn dal Cymru’n ôl o’i chymharu â gwledydd eraill Prydain.

Dywed y Ceidwadwyr fod y sefyllfa’n symptomatig o’r ffordd y mae Cymru ymhell y tu ôl i weddill Prydain o dan Lywodraeth Lafur.

Pe baen nhw mewn grym yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ar Fai 5, dywed y Ceidwadwyr y bydden nhw’n treblu’r ddarpariaeth gofal plant rhad ac am ddim, sy’n golygu darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant i rieni plant tair a phedair oed.

10 awr sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd.

Yng Nghymru y mae’r ddarpariaeth gofal plant leiaf hael o blith gwledydd Prydain ac mae’r bwlch yn ymestyn.

Testun pryder

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod teuluoedd yn dioddef o dan Lywodraeth Lafur Cymru.

“Mae’r ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru ar hyn o bryd yn destun pryder mawr, a byddai ei threblu’n ddarpariaeth i Lywodraeth Geidwadol Cymru.”

Dywedodd fod Llafur yn “cyfyngu” teuluoedd a’u bod yn “anhyblyg”.

Ychwanegodd llefarydd plant y Ceidwadwyr, Angela Burns y byddai Llywodraeth Geidwadol yn rhoi mwy o ddewis i rieni ynghylch lleoliadau gofal plant a defnyddio’u hawl i gael gofal plant rhad ac am ddim.

“Drwy fuddsoddi mwy o arian mewn gofal plant rhad ac am ddim, gallwn ni sicrhau nad yw Cymru’n cael ei gadael ar ei hôl hi, a bod capasiti yn cael ei adeiladu i mewn i’r system bresennol i roi 30 awr yr wythnos i rieni plant tair a phedair oed ledled Cymru.”