Darnau o asbestos ar Heol Beechley, Caerdydd (Llun: Neil McEvoy)
Mae cynghorydd wedi beirniadu ymateb Cyngor Caerdydd wedi iddyn nhw gymryd bron i ddiwrnod i orffen clirio llwyth o asbestos oedd wedi’i ddympio mewn ardal breswyl.

Dywedodd Neil McEvoy, Cynghorydd Plaid Cymru ward Tyllgoed (Fairwater), ei fod wedi’i “syfrdanu” ag ymateb y Cyngor a anfonodd un cwmni o gontractwyr i Heol Beechley, gan ddweud ei fod ar ddeall mai dim ond tri gweithiwr fu’n clirio’r gwastraff yno.

Cafodd y cyngor alwad nos Fawrth i ddweud bod yr asbestos wedi’i ddympio ar ochr y stryd – ond er i’r gweithwyr fynd yno ben bore Mercher i’w glirio, fe gymerodd hi’r rhan fwyaf o’r dydd iddyn nhw glirio’r llanast.

“Dw i’n meddwl y dylai o leia’ hanner cant [o weithwyr] fod wedi bod yno,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360.

‘Plant yn chwarae ynddo’

Esboniodd Neil McEvoy fod “symiau mawr” o asbestos wedi’u dympio ar ffordd, y palmentydd a’r borfa gerllaw.

“Roedd e wedi’i dorri’n ddarnau hefyd, felly roedd y llwch peryglus yn chwythu o gwmpas y lle,” meddai.

Dywedodd fod trigolion wedi cysylltu â’r Cyngor gyntaf am 7.00yh nos Fawrth 5 Ebrill, a bod contractwyr wedi gweithio ar y safle drwy gydol ddydd Mercher.

Er hyn, dywedodd y Cynghorydd nad oedd camau priodol wedi eu cymryd i hysbysu’r cyhoedd.

“Roedd ceir yn gyrru drwyddo, plant yn chwarae ynddo, a phobl wedi gadael eu drysau a’u ffenestri ar agor heb wybod,” meddai’r cynghorydd.

“Roedd hi’n anghredadwy fod plant yn reidio beics reit ger lle’r oedd dau ddyn mewn siwtiau gwyn a mygydau yn glanhau’r gwastraff.”

‘Bygythiad bywyd’

Dywedodd Neil McEvoy ei fod wedi cysylltu â’r Cyngor ei hun i ofyn pam nad oedd y ffordd wedi’i chau a’r trigolion wedi’u hysbysu.

“Fe ddywedon nhw [Cyngor Caerdydd] wrtha i mai’r asbestos yna oedd y ffurf leiaf gwenwynig, a’u bod nhw’n delio ag e,” meddai.

“Doeddwn i methu credu’r peth – mae’n fygythiad bywyd ac mae ardal eang wedi’i llygru gan y llwch.”

Does dim gwybodaeth eto ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol am ddympio’r asbestos.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Caerdydd i’r digwyddiad.