Bydd deddf newydd, sy’n dod i rym heno yn rhoi mwy o hawliau i ofalwyr ac yn cryfhau pwerau i ddiogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Llywodraeth y bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn trawsnewid y ffordd y darperir gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd yn gwneud hynny gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion unigolion, yn rhoi llais i bobl o ran sut y mae gwasanaethau cymdeithasol yn asesu a darparu eu gofal a chymorth, a sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i leihau’r pwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal preswyl.

Bydd gan yr awdurdodau lleol ddyletswydd o dan y Ddeddf i gynnal asesiad gofalwr lle mae angen cymorth ar ofalwyr.

‘Y gwasanaeth cywir’

Mae’r Ddeddf hefyd yn cyflwyno pwerau diogelu newydd a fydd yn helpu i gadw plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn fwy diogel.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: “Am hanner nos heno, bydd system newydd yng Nghymru yn dod i rym ar gyfer gofal a chymorth i’n dinasyddion mwyaf agored i newid, sy’n decach ac yn fwy cynaliadwy.

“Bydd yn sicrhau bod y gwasanaethau cywir ar gael yn y lle cywir ac ar yr adeg iawn i helpu pobl i fyw eu bywydau fel y maen nhw’n dymuno.

“Rydyn ni hefyd yn rhoi’r hawl i ofalwyr gael eu hasesu am gymorth, sy’n gyfwerth â’r hawl sydd gan y bobl y maent yn gofalu amdanynt, a bydd pwerau diogelu newydd yn helpu i gadw plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn fwy diogel.

“Rwy’n hyderus y bydd y system newydd yn gwella’r gofal a’r cymorth a ddarparwn i bobl Cymru er gwell.”