Er bod tymor swyddogol y Cynulliad wedi dod i ben, bydd Aelodau Cynulliad yn dychwelyd i Fae Caerdydd heddiw ar gyfer cyfarfod brys i drafod y diwydiant dur.

Daw hyn wedi i gwmni dur Tata gyhoeddi’r wythnos diwethaf y byddan nhw’n gwerthu eu safleoedd ym Mhrydain, gan olygu y byddai miloedd o swyddi yng Nghymru yn y fantol ac, yn bennaf, ym Mhort Talbot.

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwneud datganiad yn ystod y sesiwn, a bydd y grŵp Tasglu dur yn cyfarfod hefyd, sy’n cynnwys aelodau o’r undebau llafur.

Mae adroddiadau ar led bod Llywodraeth Prydain mewn trafodaethau gyda chwmnïau fyddai’n ystyried prynu rhai o’r safleoedd dur ym Mhrydain, gan gynnwys gweithfeydd dur Port Talbot.

Yn y Sunday Telegraph, daeth cadarnhad gan Sanjeev Gupta, sylfaenydd Liberty House, fod trafodaethau ar y gweill rhyngddo ef â Tata a’i fod yn barod i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain.

Ond, ychwanegodd nad oedd yn barod i brynu’r cwmni cyfan.