Bafetimbi Gomis
Fe allai chwech o chwaraewyr pel-droed presennol Abertawe golli trwyddedau gweithio sydd yn eu caniatáu i chwarae ym Mhrydain os yw’r wlad yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyna rybudd ymgyrch Stronger In Europe, sydd eisiau gweld y wlad yn pleidleisio i aros o fewn Ewrop yn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Yn ôl eu hymchwil nhw, fyddai chwaraewyr fel Bafetimbi Gomis, Angel Rangel, Alberto Paloschi, Leroy Fer, Jordi Amat a Kristoffer Nordfeldt ddim yn cyrraedd y gofynion trwyddedau gweithio presennol ar gyfer y rheiny o du hwnt i’r Undeb Ewropeaidd sydd am ddod i Brydain.

Mae pob un ohonynt  yn dod o wledydd Ewropeaidd, a’r pryder ymysg rhai yw y gallai fod yn anoddach denu sêr o’r gwledydd hynny pe na bai Prydain yn rhan o’r Undeb.

Ond mae ymgyrchwyr o blaid gadael Ewrop wedi dweud y gallai rheolau trwyddedau gweithio gael eu llacio er mwyn caniatáu i bêl-droedwyr rhyngwladol barhau i ddod.

Effaith ehangach

Ar hyn o bryd mae’n rhaid i bêl-droedwyr o du hwnt i’r Undeb Ewropeaidd gyrraedd meini prawf penodol os ydyn nhw am gael trwydded gweithio ym Mhrydain.

Mae hynny’n cynnwys chwarae’n rheolaidd i’w gwlad, gyda’r union nifer o gemau sydd yn rhaid eu chwarae yn dibynnu ar ba mor dda yw eu tîm cenedlaethol.

Pe bai’r rheolau presennol yn cael eu hymestyn i gynnwys gwledydd Ewropeaidd eraill yn dilyn Brexit, fe fyddai hynny’n ei gwneud hi’n anoddach i chwaraewyr oedd ddim yn sêr rhyngwladol mawr gael yr hawl i chwarae ym Mhrydain.

Yn ôl amcangyfrifon fe fyddai 332 o chwaraewyr Ewropeaidd yn nwy adran uchaf Lloegr a’r Alban yn methu â chyrraedd y meini prawf presennol – gan gynnwys enwau fel Dmitri Payet a N’Golo Kante.

Ond petai hi’n anoddach arwyddo chwaraewyr o dramor ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, fe allai hynny olygu mwy o siawns i chwaraewyr o Gymru, Lloegr yr Alban a Gogledd Iwerddon.