Mark Drakeford
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyffur newydd i drin y clefyd “etifeddol ac anghyffredin”, Syndrom Morquio, ar gael drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Mae Syndrom Morquio yn glefyd sy’n ymddangos o oedran cynnar mewn plentyn.
Mae’r symptomau’n cynnwys esgyrn cam, asgwrn cefn crwm a’r frest yn tyfu’n anwastad.
Wrth i’r plentyn dyfu, mae’r symptomau’n dwysau gyda phoen, blinder a gwendid yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd.
Disgwylir i bobl sydd â Syndrom Morquio fyw hyd at tua 30 oed, a chyn hyn dim ond triniaeth gofal lliniarol neu gefnogol i’r achosion sylfaenol oedd ar gael.
Ond bellach, mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd y feddyginiaeth Vimizim® ar gael yng Nghymru, yn dilyn argymhelliad gan y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.
‘Arafu’r cyflwr’
“Rwy’n falch iawn o fedru cadarnhau argymhelliad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y dylai Vimizim®, y driniaeth gyntaf sydd â’r potensial i newid cwrs Syndrom Morquio, fod ar gael yng Nghymru,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford.
“Mae arbenigwyr clinigol yn awgrymu bod disgwyl i’r therapi arafu’r cyflwr, lleihau’r angen am lawdriniaeth, a gwella ansawdd bywyd.
“Rwy’n siŵr y bydd pobl sy’n byw gyda Syndrom Morquio a’u teuluoedd yn falch iawn o glywed bod Vimizim® wedi’i gymeradwyo.”
Amcangyfrifir mai cost trin yr holl gleifion cymwys yng Nghymru yw £880,000 yn y flwyddyn gyntaf.