Fe fydd cynrychiolwyr myfyrwyr o brifysgolion Cymru yn teithio i’r Senedd y bore yma i alw ar Aelodau’r Cynulliad i wrthod Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) cyn iddyn nhw bleidleisio yn y cyfarfod llawn.

Daw hyn wedi i gynrychiolwyr myfyrwyr gyflwyno llythyr agored at Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yn galw am oedi’r broses o gyflwyno’r safonau er mwyn cael mwy o amser i “ddatrys problemau difrifol”.

‘Llety cyfrwng Cymraeg’

Maen nhw’n anfodlon â’r safonau fel ag y maent, gan bryderu y byddai’r safonau’n diddymu’r hawl i lety cyfrwng Cymraeg, fel sydd yng nghynlluniau iaith prifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth ar hyn o bryd.

Ymysg y pryderon eraill, maen nhw’n pwysleisio nad yw’r safonau’n nodi fod rhaid i brifysgolion a cholegau ddarparu mewnrwyd a chyfrifiaduron Cymraeg na gwersi Cymraeg i ddysgwyr.

Yn ogystal, maen nhw’n galw am hepgor Canolfan Gelfyddydol Pontio, Bangor a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth o’r gofynion cyfreithiol presennol i ddarparu gwasanaethau yn ddwyieithog.

‘Ymateb tila’
“Fe wnaethon ni geisio dylanwadu’n adeiladol ar y broses ddemocrataidd drwy erfyn ar y gwleidyddion i oedi’r broses yma a chaniatáu mwy o amser i sicrhau safonau addas i’r dyfodol,” meddai Hanna Merrigan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

“Serch hynny, mae’n amlwg o ymateb tila’r Llywodraeth nad oes ganddyn nhw atebion i’n pryderon nac awydd i fynd i’r afael â nhw.”

Fe gytunodd Ifan James, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, gan ddweud bod y safonau’n “diddymu hawliau myfyrwyr ac yn hepgor dyletswyddau sydd eisoes yn bodoli – am y rheswm hynny mae’n rhaid eu gwrthod a llunio safonau llawer cryfach.”

‘Cyfle gwirioneddol’

“Mae’r safonau yma’n llanast llwyr fel maen nhw’n sefyll. Serch hynny, o’u tynnu’n ôl a’u cryfhau, mae cyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr ac i gyfrannu at y dasg o godi cenedl ddwyieithog,” meddai Steffan Bryn, Swyddog myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd.

“Mae pob Aelod Cynulliad – gan gynnwys y Prif Weinidog – wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â ni yn y Cynulliad y bore yma. Rydym yn gobeithio y byddant yn rhoi buddiannau myfyrwyr a’r Gymraeg yn gyntaf. ”

‘Cam yn ôl’

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi llythyru at y Prif Weinidog yn galw am gyfle i ail-lunio’r safonau.

“Mae gennym bryderon mawr fod geiriad y safonau hyn yn creu ansicrwydd ynghylch hawliau pobol i’r Gymraeg ac yn cynrychioli cam yn ôl o gynlluniau iaith,” meddai Manon Elin, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Fe esboniodd fod y Prif Weinidog wedi addo y bydd y safonau iaith yn cryfhau gwasanaethau Cymraeg, “ond os caiff y safonau eu pasio fel ag y maent byddant yn wannach na’r cynlluniau iaith.”

Fe gyfeiriodd fod “mannau gwan” yn y safonau a allai “amddifadu myfyrwyr o’u hawl i lety cyfrwng Cymraeg er enghraifft.”

“Mae’r broses o osod safonau yn rhy araf ac yn rhy gymhleth – rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau fod gan bobol Cymru hawl cyffredinol, diamwys i wasanaethau Cymraeg,” ychwanegodd Manon Elin.