Gruff Crowther yn ei fideo 'Cân Fi' (llun: YouTube)
Fe fydd bachgen saith oed o Ddyffryn Clwyd sydd â thiwmor ar ei ymennydd yn cyfarfod ag Aelodau Seneddol yn San Steffan yn ddiweddarach ddydd Mercher i alw am fwy o ymchwil i’r salwch.

Mae Gruff Crowther eisoes wedi codi mwy na £3,000 drwy ei dudalen Just Giving, ac mae e wedi ysgrifennu a recordio ‘Cân Fi’ gyda chymorth Gai Toms gan gynnwys fideo gafodd ei chynhyrchu gan ei gyfnither 15 oed, Amy.

Mae’r fideo eisoes wedi cael ei wylio dros 1,750 o weithiau ar ôl cael ei rannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf.

Codi arian

Bwriad Gruff Crowther a’i deulu yw codi arian ar gyfer elusen CLIC Sargent, y brif elusen canser i blant a’u teuluoedd yng ngwledydd Prydain.

Maen nhw’n cynnig cymorth clinigol, ymarferol ac emosiynol i’r plant a’u teuluoedd, ac yn eu helpu i fwynhau bywyd i’r eithaf er gwaetha’r salwch.

Cafodd Gruff wybod ym mis Medi 2014 fod ganddo diwmor ar ei ymennydd, ac fe dderbyniodd driniaeth chemotherapi.

A heddiw, roedd ar y ffordd i Lundain i gyfarfod â’r gwleidyddion am sgwrs bellach:

‘Dw i ddim ofn’

Ar ei dudalen Just Giving, dywed ei rieni am yr elusen: “Maen nhw wedi bod yno i ni drwy gydol taith Gruff hyd yma, yn enwedig wrth ddarparu’r nyrs hyfryd Rhian Pritchard, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw.”

Mewn neges ddiweddar ar ei dudalen Twitter, dywedodd Gruff: “Rwy’n gwybod am y tiwmor ar fy ymennydd. Dywedodd Mami a Dadi wrtha i’n syth rhag ofn i fi glywed oedolion eraill yn siarad felly dw i ddim ofn.”

Mae Gruff wedi bod yn derbyn triniaeth yn ysbytai Glan Clwyd ac Alder Hey yn Lerpwl.