Mae enwau’r bandiau fydd yn cystadlu am wobr Band Cymru 2016 eleni newydd gael eu datgelu ar raglen Heno ar S4C heno.
Band Cymru yw cystadleuaeth S4C i fandiau chwyth, pres a jazz ac yn dilyn llwyddiant cynnal y gystadleuaeth gyntaf yn 2014, mae S4C a threfnwyr y gystadleuaeth Rondo Media, wedi dewis 12 band sydd â chyfle i ennill £10,000.
Y deuddeg band fydd yn cystadlu am deitl Band Cymru 2016 yw:
Band BTM
Band Pres Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru
Band Dinas Caerdydd 1 (Melingruffydd)
Band Llaneurgain
Band Llwydcoed
Band Tref Porth Tywyn
Band Temperance Tongwynlais
Band Tref Tredegar
Band Tylorstown
Brass Beaumaris
Cerddorfa Jas y Brifddinas
Chwythbrennau Siambr Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru
Y ffeinal
Bydd rownd derfynol Band Cymru yn cael ei chynnal yn Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci, un o gadarnleoedd traddodiadol Bandiau Cymreig ar ddydd Sul 22 Mai.
Cyn hynny, bydd pedair rownd gynderfynol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ddydd Sadwrn a Sul, 9 a 10 Ebrill.
Y pedwar band sydd wedi cael eu dewis ar gyfer cystadleuaeth newydd Band Ieuenctid Cymru yw Band Pres Ieuenctid Gwent, Band Jazz Tryfan, Cerddorfa Chwyth Ieuenctid Gwent a Cherddorfa Ieuenctid Jazz Gwasanaeth Cerdd Caerdydd a’r Fro.
£1,000 yw’r wobr.