Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru
Yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw, fe fydd Plaid Cymru yn lawnsio eu hymgyrch ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol 2016 gan alw am “Gymru iach, glyfrach, gyfoethocach.”

Wrth siarad cyn y lawnsiad, fe ddywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, ei bod am weithredu naw polisi allweddol ym maes iechyd, addysg a’r economi a fydd yn seilio tair uchelgais y blaid.

“Ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Llafur di-dor sydd wedi arwain at farweidd-dra economaidd a dirywiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae pobol Cymru yn ymbil am arweinyddiaeth gymwys,” meddai Leanne Wood gan ddweud ei bod yn barod i gynnig yr arweinyddiaeth honno.

‘Pwerdy economaidd’

Yn rhan o’u hymgyrch, mae’r blaid yn cynnwys cynlluniau i dorri amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, cynnig gofal am ddim i’r henoed, codi safonau mewn ysgolion a throi Cymru yn “bwerdy economaidd”.

“Mae popeth a wna Plaid Cymru yn cael ei yrru gan ein hawydd i sicrhau cenedl decach, fwy ffyniannus sy’n medru sefyll ar ei thraed ei hun.

‘Pennod newydd’

Fe ddywedodd fod y blaid wedi “gwrando ar yr hyn y mae pobol ei eisiau” dros y bum mlynedd ddiwethaf.

“Gyda thîm cryf ac unedig, mae Plaid Cymru’n barod i arwain Cymru ar ei thaith tuag at fod yn genedl ffyniannus sy’n medru cynnal economi wydn. Cenedl sy’n medru cefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen. Cenedl sy’n medru rhoi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i’n pobl ifanc fel y gall pawb gyflawni eu potensial.

“Rwy’n annog pobol i ddefnyddio’r cyfle fis Mai i ethol llywodraeth sy’n barod i ysgrifennu pennod newydd lwyddiannus yn hanes ein cenedl.”