Darren Millar AC
Mae ffigurau a gyhoeddir heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos fod mwy na 1,600 o uwch swyddogion yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael eu talu mwy na £100,000 y flwyddyn.
Mae hynny’n gynnydd ers blwyddyn ariannol 2012-2013, lle’r oedd 1,515 yn derbyn mwy na £100,000.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi fod “amrywiaethau mawr” yn bodoli rhwng y byrddau iechyd hefyd.
Fe ddywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod am gyfyngu ar daliadau ymddiswyddo i uwch swyddogion gan gynnal arolwg o’r cyflogau o fewn y gwasanaeth iechyd.
‘Mwy o bwysau nag erioed’
“Mae’n peri pryder mawr bod mwy na 1,600 o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael cyflogau chwe ffigwr, mewn adeg lle mae toriadau cyllidebol Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi gwasanaethau’r rheng flaen o dan bwysau mawr,” meddai Darren Millar, Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
Fe gyfeiriodd hefyd at achos Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Trevor Purt a dderbyniai gyflog o £200,000 y flwyddyn er ei fod wedi gadael ac yn gweithio yn Lloegr.
“Mae’n iawn i gymunedau gwestiynu sut y gall byrddau iechyd yng Nghymru gyfiawnhau cyflogi mwy o reolwyr, ar fwy o arian, pan mae amseroedd aros yn hwy, nyrsys, bydwragedd a doctoriaid o dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen.”
‘Amrywiaethau mawr’
Mae’r ffigurau’n dangos bod 1,615 o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cael eu talu mwy na £100,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2014-2015.
Mae ffigurau’r Ceidwadwyr Cymreig yn amlygu amrywiaethau rhwng y byrddau iechyd o ran y nifer o weithwyr a dderbyniai mwy na £100,000 y flwyddyn:
- 425 ym Mwrdd Iechyd Bro Morgannwg
- 414 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- 360 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- 222 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- 8 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- 5 ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys
“Mae’n bryd rhoi terfyn ar y system sy’n ymdebygu at gymeradwyo methiant ac yna ei adleoli â system sy’n deg i bawb yn y gwasanaeth iechyd ac i’r trethdalwr,” ychwanegodd Darren Millar.