Mae bargyfreithiwr amlwg wedi rhybuddio bod toriadau i arian Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynyddu’r peryg o wneud cam â phobol ddiniwed neu fethu â chosbi troseddwyr go iawn.

Yn ôl Jonathan Elystan Rees, mae yna doriadau o tua 25% wedi bod yn arian y Gwasanaeeth yng Nghymru ers 2010 ac mae hynny’n peryglu safon y gwasanaeth.

“Os nad ydych chi’n rhoi arian digonol, r’ych chi’n cynyddu’r peryg fod pethau’n mynd o le,” meddai ar Radio Wales.

Ar y gwaetha’, meddai, fe allai hynny olygu bod pobol ddiniwed yn cael eu carcharu, neu fod pobol sydd wedi cael cam yn methu â chael cyfiawnder.

Mwy o lwyddiant, meddai’r Gwasanaeth

Mae’r feirniadaeth yn dilyn nifer o achosion amlwg yng Nghymru sydd wedi methu ar ôl cyrraedd y llys.

Mae’r Gwasanaeth ei hun wedi ymateb trwy nodi bod lefelau ennill achosion ar gynnydd a thros 80% a bod rhesymau cymhleth am fethiant rhai achosion, yn enwedig lle mae angen i bobol fregus fod yn dystion.

  • Mae Jonathan Elystan Rees yn arbenigwr ar droseddu, yn aelod o un o baneli’r Gwasanaeth Erlyn ac yn cynrychioli Cymru ar Bwyllgor Gwaith Cymdeithas y Bar Troseddol.