Dr Felix Aubel
Mae Dr Felix Aubel wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Geredigion yn etholiadau’r Cynulliad.
Dywedodd y gweinidog eglwys o bentref Tre-lech yn Sir Gaerfyrddin ei fod “yn falch iawn” o gael ei ddewis ac y byddai’n ymgyrchu’n galed dros y misoedd nesaf.
“Fel rhywun sy’n gweithio mewn proffesiwn gofal, mae gennyf y profiad a’r wybodaeth i gefnogi Ceidwadaeth dosturiol i wella gwasanaethau yn ein hysbytai a’n canolfannau gofal cymdeithasol – llefydd rwy’n ymweld â nhw’n aml yn rhinwedd fy ngwaith,” meddai.
Ond dywedodd hefyd mai ei brif bryder yw cyflwr addysg yng Ngheredigion ac yng Nghymru yn gyffredinol.
“Rwy’n ymwybodol o’r angen i wella cyfleoedd addysg, hyfforddi a gwaith yng Ngheredigion. Bydd y gwelliannau hyn, ynghyd â mynediad gwell i dai da, nid yn unig yn hybu’r economi leol, ond hefyd yn gwella ansawdd bywyd.”
Dywedodd hefyd y byddai’n hyrwyddo busnesau bach y sir, gan gynnwys y rhai sy’n rhan o’r sector twristiaeth ac amaethyddiaeth.
Beirniadu Plaid a’r Dems Rhydd
“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy’n cynnig dewis arall i Lywodraeth aflwyddiannus Lafur Cymru, sydd ddim yn poeni o gwbl dros les ardaloedd gwledig,” meddai.
Bu’n feirniadol o Blaid Cymru, sydd â sedd Ceredigion yn y Cynulliad ar hyn o bryd, am geisio “rhannu’r” Deyrnas Unedig a’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n mynd yn ‘gynyddol i’r chwith’.