Mae tref Llanymddyfri, a oedd unwaith yn gartref i 70 o dafarnau a gafr oedd yn yfed cwrw, yn adfywio ac yn hybu ei hanes i dwristiaid.

Mae’r dref adnabyddus fel cartref y bardd Rhys Prichard, yr emynwr William Williams Pantycelyn, a’r cymeriad chwedlonol Twm Siôn Cati – sy’n cael ddisgrifio fel y ‘Robin Hood’ Cymreig – oedd yn arfer cuddio mewn ogof i’r gogledd o’r dref.

Mae’r Cyngor Tref newydd gael caniatâd cynllunio rhestredig i gyhwfan baner Llanymddyfri ar adeilad Neuadd y Dref ar Stryd y Farchnad.

Yn ôl Stephen Carter, clerc y Cyngor Tref, cafodd y faner sy’n cynnwys arfbais y dref, ei chreu ddwy flynedd yn ôl cyn Covid-19.

“Mae hi wedi bod yn fy nghwpwrdd ers hynny,” meddai.

Cafodd y cynnig i gyhwfan y faner ei hysbysebu yn y dref fel rhan o ymgynghoriad, ac roedd ymateb y cyhoedd yn bositif.

“Syniad hyfryd,” meddai Martin Blake ar Facebook.

Lleoliad i dwristiaid a phorth o’r dref i fynyddoedd Cambria

Mewn datganiad a gafodd ei gyflwyno fel rhan o’r cais i gyhwfan y faner, nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd hybu Llanymddyfri fel lleoliad i dwristiaid ac fel porth o’r dref i fynyddoedd Cambria.

Mae’r gwaith hwnnw’n mynd rhagddo mewn meysydd eraill hefyd.

Mae plac glas wedi’i osod er cof am yr emynwr William Williams Pantycelyn.

Daeth ei emyn enwocaf, ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’ yn adnabyddus yn ddiweddaraf fel ‘Guide Me, O Thou Great Redeemer’.

Bu farw yn 1791.

Mae plac glas arall yno er cof am Fanc yr Eidion Du, a gafodd ei sefydlu yn 1799 a’i brynu gan Fanc Lloyds yn 1909.

Derbyniodd Llanymddyfri Siartr Frenhinol yn 1485 gan Rhisiart III, ac roedd yn ganolbwynt i’r porthmyn oedd yn gyrru gwartheg i’r farchnad yn Llundain.

“Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd 70 o dafarnau yn Llanymddyfri,” meddai’r Cynghorydd Handel Davies, maer y dref.

Byddai Rhys Prichard (1579-1644) yn ymweld â rhai ohonyn nhw, ac yn mynd â’i afr gyda fe.

Yn y Cynghorydd Davies, y chwedl yw fod yr afr wedi yfed cwrw yn ystod crôl tafarnau, ond nad oedd wedi yfed y noson ganlynol, a bod hynny wedi ysbrydoli nifer o gerddi Rhys Prichard.

Mae Cyngor Tref Llanymddyfri bellach yn awyddus i osod placiau ar dai ac adeiladau o bwys yn y dref sy’n dwyn enw’r dafarn, gyda chaniatâd y perchnogion.

Twm Siôn Cati’n ‘haeddu parch’

Dywed y cynghorydd, sydd hefyd yn gynghorydd sir, fod hysbysfwrdd wedi’i osod ger yr ogof yn Rhandirmwyn i’r gogledd o Lanymddyfri, lle byddai Twm Siôn Cati yn cuddio.

Mae cryn dipyn ar gof a chadw am y cymeriad o’r unfed ganrif ar bymtheg, oedd hefyd yn fardd ac yn ffermwr, ac mae’r wybodaeth amdano’n aml yn canolbwyntio ar ei nodweddion nid annhebyg i Robin Hood.

Ond mae rhai yn teimlo ei fod e’n haeddu mwy o barch.

Mae’r wefan hanes rhandirmwyn.net yn nodi’r posibilrwydd y gallai fod wedi cuddio yn yr ogof er mwyn osgoi erledigaeth grefyddol yn hytrach na dicter y sawl a gafodd eu twyllo ganddo fe.

Mae sôn ei fod e “wedi byw sawl bywyd” cyn ei farwolaeth yn 1609.

“Mae’n debyg fod nifer o’r anturiaethau a gafodd eu priodoli iddo wedi llifo o ddychymyg amryw o nofelwyr,” meddai’r wefan.