Mae Cynghorwyr Ynys Môn wedi pleidleisio yn erbyn cynlluniau’r Grid Cenedlaethol i godi peilonau ar Ynys Môn gan ffafrio’r opsiwn arall o adeiladu ceblau tanfor rhwng yr ynys a Glannau Mersi.

Fe fydd y Cyngor nawr yn cyflwyno ei ymateb yn swyddogol i’r Grid fel rhan o’i ymgynghoriad sy’n dod i ben wythnos i heddiw (Rhagfyr 16).

Ers 2012, mae’r Grid Cenedlaethol wedi bod yn ystyried codi llwybr o beilonau ar draws yr ynys, ond mae’r ymateb yn lleol wedi bod yn chwyrn.

Fe wnaeth y Grid agor cyfnod ymgynghori ‘Cam 2’ y cynllun ym mis Hydref eleni, ac ar ôl iddo gau bydd y cynlluniau’n mynd gerbron Llywodraeth Prydain.

Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth Prydain dros Ynni a Newid Hinsawdd, Amber Rudd, fydd â’r gair olaf am ddyfodol y cynllun wedi hynny.

“Sarhad sy’n gyfystyr â Thryweryn”

Dros y penwythnos, roedd cyfarfod cyhoeddus yng Ngaerwen gyda 150 o bobl yn dod ynghyd i fynegi eu pryderon am gynllun dadleuol y Grid.

Yn cadeirio’r cyfarfod roedd Dafydd Idriswyn Roberts, Cadeirydd mudiad Unllais Cymru Môn, a alwodd y cynllun yn “sarhad sy’n gyfystyr â’r anghyfiawnder a fu ar Dryweryn.”

Mae ymgyrchwyr lleol wedi galw ar y Grid Cenedlaethol i gefnu ar gynlluniau’r peilonau gan ddweud y byddan nhw’n dinistrio harddwch naturiol yr ynys ac yn cael effaith niweidiol ar ei diwydiant twristiaeth.

Ond mae’r Grid yn cynnig gosod peilonau rhwng Wylfa a Phentir, gan osod ceblau tanddaearol o dan Afon Menai, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, Plas Newydd a Pharciau Cofrestredig Ystâd y Faenol yn unig.

Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben ar Ragfyr 16, bydd AS Ynys Môn, Albert Owen yn cyflwyno’r materion i’r Senedd.