Hywel Williams
Mae Aelod Seneddol Arfon  wedi galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i  leoli  catrodau Cymreig yng Nghymru.

Daw’r alwad gan Hywel Williams o Blaid Cymru ar drothwy cyhoeddi adolygiad cynhwysfawr ddydd Llun o waith a phwrpas y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r milwyr dan ei gofal.

Dywedodd Hywel Williams, sy’n llefarydd Plaid Cymru ar faterion yn ymwneud ag Amddiffyn, fod yr adolygiad  yn gyfle i greu strategaeth amddiffyn gynhwysfawr i ateb anghenion pob rhan o Brydain. Ar hyn o bryd mae tair o gatrodau Cymreig wedi eu lleoli yn Lloegr.

Meddai Hywel Williams: “Yn ein maniffesto etholiadol, fe ddywedodd Plaid Cymru byddai’n archwilio’r syniad o leoli catrodau Cymreig yng Nghymru pan nad ydynt yn gwasanaethu. Mae angen i’r Llywodraeth gynnal astudiaeth ddichonolrwydd ynghylch hyn.”

Yn ôl AS Arfon mae cefnogaeth drawsbleidiol i leoli’r catrodau yng Nghymru.

“Mae hyn yn synnwyr cyffredin sydd wedi denu cefnogaeth yn hanesyddol gan y pleidiau gwleidyddol i gyd yng Nghymru. Mae’n berffaith resymol i ganiatáu bod ein milwyr wedi’u lleoli yng Nghymru, mor agos â phosib i deuluoedd a ffrindiau. ”

‘Achos economaidd cryf’

Yn ôl Hywel Williams “mae yna achos economaidd cryf o blaid dod a’n milwyr yn ôl adref. Mae data hyd at 2008 yn dangos fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwario llai y pen yng Nghymru nag unrhyw ranbarth neu genedl arall yng ngwledydd Prydain. Mae hyn yn golygu fod Cymru yn colli buddion i’r economi Gymreig  o ran caffael o ganlyniad i’r ffaith nad yw’r catrodau hyn wedi’u lleoli yng Nghymru.”