Mae arbenigwr amaeth yn rhybuddio am straen ar dda byw o ganlyniad i’r gwres, wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi eu rhybudd oren cyntaf erioed ar y mater.

Mae’r rhybudd oren mewn grym mewn rhannau helaeth o Gymru a thu hwnt, ac fe fydd yn ei le tan yfory (dydd Iau, Gorffennaf 21) pan fo disgwyl i’r tymheredd godi eto.

Mae’r rhybudd am y gwres wedi’i gyflwyno er mwyn tynnu sylw at effeithiau’r gwres ar y corff a phroblemau ehangach sy’n gallu cael eu hachosi.

Yn ôl Rob Matthews, sy’n arbenigo mewn yswiriant yng nghefn gwlad, ddylai ffermydd ddim diystyru effaith y gwres ar anifeiliaid, ac mae’n rhybuddio y dylid cymryd rhagofalon i warchod anifeiliaid rhag straen y gwres.

“Mae ffermio’n ddiwydiant sy’n dibynnu ar y tywydd, ac yn eithriadol o sensitif i dymheredd eithriadol, felly gall yr haf fod yn amser hynod bryderus a heriol i ffermwyr, yn enwedig wrth i’r tymheredd newid yn gynyddol rhwng glaw trwm a thymheredd uchel o ganlyniad i newid hinsawdd,” meddai.

“Mae’r cynhaeaf yn aml yn cael y flaenoriaeth yn ystod y misoedd hanfodol hyn, gydag amser ac ymdrech yn cael ei wneud i fanteisio ar y cnydau.

“Wrth gwrs, mae lles da byw hefyd yn flaenoriaeth i ffermwyr, ond mae hi ond yn cymryd ambell radd ychwanegol dros gyfnod cymharol fyr o amser i anifeiliaid ddioddef effeithiau straen gwres – gall ddigwydd yn gyflym a heb fawr o rybudd.”

Adnabod straen gwres

Mae’n rhybuddio na all rhai anifeiliaid reoli gwres y corff yn ddigonol, a bod y gwres yn gallu cael effaith ar allu anifeiliaid i gynhyrchu llaeth.

Mae’n dweud y dylai ffermwyr gadw llygad barcud ar dymheredd cyrff da byw, sicrhau bod modd cadw anifeiliaid yn ddigon oer ac adnabod arwyddion straen, megis blinder, y geg ar agor, bwyta llai ac aflonyddwch yn gyffredinol.

Mae Rob Matthews hefyd yn rhybuddio am effaith y gwres ar gŵn defaidd a chŵn ffermio.

“Osgowch eu gweithio nhw yn ystod tymheredd brig y dydd a’u cadw nhw wedi’u hawyru yn y cysgod gyda mynediad aml at ddŵr,” meddai.

“Gall pwll nofio bach fod yn ffordd gyflym i gi oeri tymheredd ei gorff.

“Dylai ffermwyr gofio hefyd nad ydyn nhw eu hunain ag imiwnedd rhag y gwres.

“Cofiwch gysgodi, yn enwedig ar adegau mwyaf cynes y dydd, yfwch ddigon o ddŵr a sicrhewch eich bod yn cael seibiant yn gyson.”

Mae’n dweud y dylai unrhyw ffermwr sy’n poeni am ei dda byw gysylltu â milfeddyg ar unwaith.