Mae’r amaethwr a cheidwad Yr Ysgwrn, Gerald Williams, wedi marw yn 92 oed heddiw (11 Mehefin).

Roedd yn nai i’r bardd enwog Hedd Wyn, a threuliodd ei oes yn ffermio’r Ysgwrn, ac ar ddymuniad ei Nain fe wnaeth “gadw drws yr Ysgwrn yn agored” gan estyn croeso i ymwelwyr oedd am dalu teyrnged i Hedd Wyn.

Diolch i waith diflino Gerald, ei frawd Ellis a’r teulu, cadwyd y cof cenedlaethol am y Prifardd Hedd Wyn, a’r genhedlaeth o Gymry ifanc a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd Gerald Williams ei eni yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd yn 1929, yn fab i Ann, chwaer Hedd Wyn, ac Ivor Williams.

Ef oedd yr ail o bedwar o blant, ac ar farwolaeth eu Mam, cafodd Gerald a’i frawd eu magu gan eu Nain a’u Taid – rhieni Hedd Wyn.

Derbyniodd ei addysg yn Nhrawsfynydd a Blaenau Ffestiniog, cyn dychwelyd i’r Ysgwrn i helpu ei Daid a’i ewythrod ar y fferm.

Derbyniodd Gerald Williams anrhydedd am ei wasanaeth oes yn 2013, pan dderbyniodd MBE ar riniog yr Ysgwrn.

Yn 2018, derbyniodd Wobr Arbennig yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru am ei wasanaeth i Gymru yn yr Ysgwrn.

Er bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi prynu’r Ysgwrn yn 2012, bu Gerald yn rhan allweddol o’r gwaith datblygu ar y ffermdy.

Ei arwyddair oedd “cartref, nid amgueddfa”, a bu’n cadw llygad ar bob agwedd o’r gwaith, yn cynnig cyngor craff, ac yn sicrhau bod naws y cartref ddim yn mynd ar goll.

“Cyfraniad unigryw”

“Mae’r Ysgwrn yn gofeb heddychlon, diwylliannol a hynny’n glod yn wir i waith arbennig Gerald a’r teulu,” meddai Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Diwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Drwy ei gymeriad rhadlon, ei ffraethineb bachog a’i allu rhyfeddol i gyfathrebu gydag ymwelwyr o bob oed a chefndir, creodd Gerald brofiad ymwelwyr cwbl unigryw yn Yr Ysgwrn.

“Roedd o’n ymhyfrydu yng nghwmni pobl a byddai gweld plant a phobl ifanc yn ddiffael yn ymddiddori yn hanes ei ddewythr wrth fodd ei galon.

“Gwnaeth Gerald Williams gyfraniad unigryw i ddiwylliant Cymru a braint oedd ei alw’n ffrind.

“Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei wraig Elsa, ei chwaer Malo a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth.”

“Hoffus, croesawgar, craff ac unigryw”

“Gyda thristwch mawr y derbyniom y newyddion am farwolaeth Gerald Williams, Yr Ysgwrn,” meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, estynnaf ein cydymdeimlad dwys gyda’i wraig Elsa, ei chwaer Malo a’r teulu cyfan yn eu profedigaeth.

“Roedd Gerald yn gymeriad hoffus, croesawgar, craff ac unigryw, a gyffyrddodd galonnau llawer, ac a ddaeth fel teulu estynedig i sawl aelod o staff. Ni fydd ymweliad â’r Ysgwrn yr un fath eto, a bydd y golled i’w theimlo yn fawr.

“Roedd yn anrhydedd bod Gerald wedi ymddiried ynom fel Awdurdod trwy drosglwyddo’r Ysgwrn i’n gofal er mwyn sicrhau bod yr addewid a wnaeth i’w nain i “gadw’r drws yn agored” yn parhau i gael ei anrhydeddu, a bod yr Ysgwrn yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.”