Bois y Frenni
Mae criw o ddynion o ogledd sir Benfro yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni gyda chyfres o gyngherddau.

“Ni wedi cael mwy o reunions na Take That,” meddai Cefin Vaughan, Cadeirydd Parti Bois y Frenni sy’n honni mai nhw yw ‘boy band’ hynaf Cymru. Eleni mae’r parti yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed.

Fe gafodd y parti ei sefydlu yn wreiddiol yn 1940 gan y bardd a’r cyfansoddwr WR Evans er mwyn diddanu cynulleidfaoedd yr ardal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bellach, 75 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r parti noson lawen o ogledd Sir Benfro, gwlad y ‘Wês Wês’, yn dal i ganu a diddanu.

Fe fydd tair noson arbennig yn cael eu cynnal i nodi’r garreg filltir gan ddechrau nos Wener, Tachwedd 6 yn neuadd bentref Boncath.

Dyma’r union fan lle cynhaliwyd y cyngerdd cyntaf erioed yn 1940, ac ar yr union ddyddiad hefyd.

‘Caneuon a sgetshis doniol’

Mae cadw’r traddodiad wedi bod yn dipyn o her i’r criw sy’n dod at ei gilydd i ymarfer bob nos Fawrth cynta’r mis, ond maen nhw’n dal ati.

“Os ydych chi’n cael hwyl, mae rhywbeth yn fwy tebygol o barhau,” esboniodd Cefin Vaughan gan ddweud mai’r un yw’r arlwy bob tro – caneuon gwreiddiol o waith WR Evans ynghyd  â chyfres o sgetshis doniol.

Roedd WR Evans yn athro ac un o gonglfeini barddol y Preseli, ar y cyd â Waldo Williams, Niclas y Glais ac Idwal Lloyd. Cafodd ei eni yn 1910 ac, ar ôl ei farwolaeth yn 1991, cafodd cofeb ei chodi i’r cymeriad uchel ei barch ger Glynsaithmaen, Mynachlog-ddu.

Roedd yr athro o’r farn bod angen deunydd adloniant i nerthu’r diwylliant Cymraeg yn yr ardal, ac mae ei gyfansoddiadau wedi’u casglu mewn amrywiol gyfrolau, gan gynnwys Cerddi Bois y Frenni.

Rhai o ffefrynnau Bois y Frenni, yn ôl Cefin Vaughan, yw Y Blac Owt, Cwtsh Dan Stâr a Tra’th y Mwnt.

“Ni’n cael hwyl, ac os ydyn ni’n anghofio geiriau does dim ots – mae’n rhan o’r hwyl,” esboniodd.

Postmon, ffermwr a gyrrwr lori Mansel

Er nad oes arweinydd gyda’r parti, mae eu cyfeilydd Wendy Lewis yn cadw trefn arnyn nhw ac mae ambell aelod yn canu gyda chorau eraill yn yr ardal hefyd.

Gyda chriw o tua 13 o aelodau, mae amrywiaeth o oedrannau o fewn y parti canu, gydag ambell un dros eu trigain ac eraill yn eu hugeiniau, “ond ni gyd yn fêts”, meddai Cefin Vaughan.

Daw’r bois o bob mathau o gefndiroedd, gydag ambell ffermwr, siopwr, gweithiwr cyngor, postmon, cyfieithydd ac, wrth gwrs, gyrwyr lori Mansel Davies.

Un o uchafbwyntiau’r parti oedd perfformio i tua 300 o bobol yng Ngŵyl Nol a Mla’n yn Llangrannog y llynedd.

Maen nhw hefyd yn ymweld â chartrefi hen bobol yn gyson, ac yn brysur ar hyn o bryd yn ymarfer ar gyfer y cyngherddau dathlu.

“Yr un yw’r ymateb ni’n ei gael o hyd,” esboniodd y Cadeirydd gan ddweud nad oes dim yn rhoi mwy o bleser na gweld y gynulleidfa yn ymuno’n y canu. “Mae’n dod â’r gymdeithas Gymrag at ei gily’.”

Cyngherddau dathlu Bois y Frenni:

  • Neuadd Boncath, Tachwedd 6
  • Neuadd Maenclochog, Tachwedd 13
  • Theatr y Gromlech, Crymych, Tachwedd 21