Mae ffordd gyswllt yr A466 ger Cas-gwent ar agor y bore ‘ma yn dilyn damwain angheuol neithiwr.

Bu farw cerddwr 72 oed yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar am oddeutu 5 o’r gloch nos Fawrth.

Cafodd ambiwlans a’r ambiwlans awyr eu galw o Fryste, ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Roedd y ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad tan oriau man y bore ger Cyffordd 2 (Cyfnewidfa Newhouse) yr M48 a’r A48 ger cylchfan Highbeech yn Fair View.