Llys y Goron Caerdydd
Roedd tri swyddog o Heddlu De Cymru wedi dwyn gwerth £30,000 o arian parod wrth gynnal cyrch mewn eiddo yn 2011, clywodd llys heddiw.
Mae’r cyn-dditectif Stephen Phillips a dau gwnstabl, Philip Christopher Evans a Michael Stokes wedi’u cyhuddo o ddwyn arian o ddwy sêff mewn tŷ roedd ganddyn nhw warant i chwilio ynddo.
Mae Stephen Phillips, 47 o Abertawe wedi’i gyhuddo o bedwar achos o ddwyn, tra bo’r ddau gwnstabl -Philip Christopher Evans , 38 oed o Langennech a Michael Stokes, 35 o Lyn-nedd, yn wynebu dau gyhuddiad yr un.
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, roedd Peter Griffiths QC ar ran yr erlyniad, wedi’u disgrifio nhw fel “afalau drwg” Heddlu De Cymru. Mae’r tri yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
‘Dwyn o ddwy sêff’
Fe gyflawnodd y tri swyddog heddlu gyrch mewn eiddo yn Heol Penderry, Abertawe pedair blynedd yn ôl.
Rhwng Ebrill 1 a Gorffennaf 21, 2011 clywodd y llys eu bod wedi “dwyn mwy na £30,000 o arian parod” o ddwy sêff yn yr eiddo hwnnw.
Fe lwyddon nhw i agor un o’r ddwy sêff yn y fan a’r lle, gan gymryd tua £12,000 o arian parod a oedd yn eiddo i ddyn o’r enw Joedyn Luben, meddai Peter Griffiths.
Fe aethon nhw â’r ail sêff at saer cloeon yn Abertawe i’w agor, lle cymerwyd £1,000 a oedd yn eiddo i Natalie Luben, clywodd y llys.
Honnir eu bod wedi cymryd gweddill yr arian o’r ddwy sêff yn ystod y cyfrifiad swyddogol ar Orffennaf 21.
Fe ddywedodd Peter Griffiths QC eu bod nhw wedi gweithredu “mewn cytgord” â’i gilydd yn ystod y cyrch, ac fel swyddogion heddlu profiadol, roedden nhw’n ymwybodol y gallai cynnwys y ddwy sêff fod yn allweddol i’r ymchwiliad.
‘Llygredd yr heddlu’
“Yn y wlad hon, mae gennym wasanaeth heddlu yr ydym yn falch ohono. Mae’n gorff cyhoeddus sy’n cynnwys nifer o ddynion a menywod yr ydym yn disgwyl iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau i’r safon uchaf,” meddai Peter Griffiths yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.
“Yn anffodus, mae yna afalau drwg hefyd, ac mae’r achos hwn yn enghraifft o hynny. Mae’n achos o lygredd yr heddlu,” ychwanegodd.
Mae’r achos yn parhau.