Llys y Goron Caerdydd
Mae tri swyddog o Heddlu De Cymru wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw ar gyhuddiad o ddwyn arian yn 2011.

Mae’r tri yn cynnwys y cyn-dditectif Stephen Phillips 47 oed o Abertawe, a dau gwnstabl sef Philip Christopher Evans, 38 oed, o Langennech a Michael Stokes, 35 oed, o Lyn-nedd.

Mae Phillips wedi’i gyhuddo o bedwar achos o ddwyn tra bod Evans  a Stokes yn wynebu dau gyhuddiad yr un.

Fe wnaeth y tri bledio’n ddieuog heddiw wrth ymddangos gerbron y Barnwr Eleri Rees yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe gawsant eu cyhuddo o ddwyn arian yn ystod dau chwiliad yn 2011, ac fe gawson nhw eu harestio fel rhan o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru i safonau proffesiynol yr adran.

Mae’r rheithgor wedi cael eu dewis ar gyfer yr achos a fydd yn para rhwng chwech ac wyth wythnos.

Peter Griffiths QC fydd yn agor yr achos yn Llys y Goron yfory.