Wayne Letherby
Mae dau ddyn wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad dyn 42 oed o Donypandy.
Bu farw Wayne Letherby ar Ebrill 17, ac mae Dean Doggett a Jamie Leyshon, y ddau yn 26 oed, wedi cyfaddef eu bod nhw’n gyfrifol am ei farwolaeth.
Roedden nhw wedi’u cyhuddo o’i lofruddio y tu allan i dafarn De Winton y dref yng Nghwm Rhondda.
Clywodd y llys fod y ddau wedi ymosod yn ffyrnig ar Wayne Letherby, gan achosi anafiadau angheuol.
Ond dywedodd yr erlynwyr nad oedden nhw’n credu mai bwriad y ddau ddiffynnydd oedd ei ladd.
Roedd teulu Wayne Letherby wedi cael gwybod y byddai’r ddau’n pledio’n euog i ddynladdiad.
Gwadu llofruddio
Roedd Doggett a Leyshon wedi gwadu llofruddio ac anhrefn treisgar.
Roedd diffynnydd arall, Kylie Thomas, 25 o Benygraig, wedi gwadu llofruddio, ond wedi pledio’n euog i anhrefn treisgar.
Clywodd y llys fod Doggett wedi’i erlyn yn y gorffennol am yrru’n beryglus, achosi niwed corfforol difrifol bwriadol, ymosod, ymosod gan achosi niwed corfforol ac ymosod ar blismon.
Roedd Leyshon wedi’i erlyn yn y gorffennol am fyrgleriaeth a niwed corfforol difrifol bwriadol.
Cafodd y ddau eu dedfrydu i gyfnod o bedair blynedd mewn uned i droseddwyr ifainc yn 2009 am ymosod ar ddynes gyda morthwyl a gwregys.
Roedd disgwyl i’r achos bara pedair wythnos, ond fe fyddan nhw nawr yn cael eu dedfrydu ddydd Mawrth nesaf.
‘Amynedd ac urddas’
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Ceri Hughes o Heddlu’r De: “Roedd Wayne Letherby yn dad, gŵr, tad-cu, brawd a mab oedd yn gweithio’n galed ac yr oedd llawer o gariad tuag ato.
“Tra bod ei deulu ar chwâl o hyd yn dilyn ei golli, ac oherwydd amgylchiadau ei farwolaeth, maen nhw wedi dangos amynedd ac urddas drwy gydol y profiad ofnadwy hwn.”
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd yr euogfarnau’n eu helpu i symud ymlaen gyda’u bywydau.
Diolchodd i’r tystion oedd wedi rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos ac i gymuned Tonypandy am eu cymorth a’u hamynedd.