Llys y Goron Caerdydd
Mae achos yn erbyn dwy nyrs, a oedd wedi’u cyhuddo o esgeuluso cleifion yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ei ddirwyn i ben ar ôl i’r erlynwyr fethu â chyflwyno tystiolaeth yn eu herbyn.

Roedd disgwyl i Claire Cahill, 42, a Jade Pugh, 30, sefyll eu prawf yn Llys y Goron Caerdydd, wedi’u cyhuddo o greu cofnodion ffals o lefelau siwgr yng ngwaed cleifion strôc.

Doedd dim tystiolaeth gan yr erlynwyr i’w chynnig ar ôl i’r barnwr benderfynu nad oedd modd i reithgor glywed tystiolaeth am ddata a gafodd ei gasglu o gliwcometr.

Dywedodd y barnwr Tom Crowther y dylid fod wedi darganfod nam technegol ar y cyfarpar lawer ynghynt.

Dywedodd y barnwr fod yr achos wedi bod yn un costus i’w baratoi, a bod yr amser a gymerodd i ddwyn yr achos gerbron llys wedi cael effaith ar achosion eraill sydd heb gael eu clywed eto.

Rhoddodd y barnwr gyfarwyddyd i’r rheithgor ganfod y ddwy nyrs yn ddieuog o bob un o’r 10 cyhuddiad yn eu herbyn.

Roedd Cahill yn wynebu chwe chyhuddiad o esgeuluso bwriadol rhwng Ebrill a Rhagfyr 2012, tra bod Pugh yn wynebu pedwar cyhuddiad o esgeuluso bwriadol rhwng Mehefin a Hydref 2012.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran Cahill ei bod hi’n awyddus i ddychwelyd i’r byd gofal.