Roedd cyfraddau Covid-19 yn gostwng ym mhob rhan o Gymru, bron, erbyn diwedd y clo dros dro, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos.

Roedd y gostyngiadau mwyaf ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent, sef y tri awdurdod lleol â’r cyfraddau uchaf.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 9 Tachwedd, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Maent yn dangos bod nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl ym Merthyr Tudful wedi gostwng o 732.7 yn y saith niwrnod hyd at 2 Tachwedd i 434.3 yn yr wythnos hyd at 9 Tachwedd.

Yn Rhondda Cynon Taf mae’r gyfradd wedi gostwng o 571.2 i 345.3 yn yr un cyfnod, ac ym Mlaenau Gwent mae’r gyfradd wedi gostwng o 516.7 i 307.7.

Yr unig ardal lle’r oedd y gyfradd wedi codi oedd Ceredigion, lle cynyddodd o 48.1 i 111.4 – ac yng Ngwynedd, arhosodd yn sefydlog ar 53.0.

Oherwydd yr oedi rhwng unigolyn yn cael ei heintio, yn dangos symptomau, ac yna’n cael ei brofi, mae’n dal i fod yn rhy fuan i’r ffigurau adlewyrchu effaith y clo dros dro yng Nghymru, a ddaeth i ben yn swyddogol ddydd Llun (9 Tachwedd).

Ond mae’r duedd tuag i lawr yn y rhan fwyaf o’r wlad yn awgrymu y gallai’r ymchwydd diweddar mewn achosion fod wedi cyrraedd ei uchafbwynt.

Dyma’r cyfraddau diweddaraf yn llawn.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 13 Tachwedd.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Tachwedd 10-13) wedi’i hepgor gan ei fod yn anghyflawn ac yn tanddatgan gwir nifer yr achosion.

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 9 Tachwedd; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 9 Tachwedd; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 2 Tachwedd; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 2 Tachwedd.

Merthyr Tudful 434.3 (262), 732.7 (442)

Rhondda Cynon Taf 345.3 (833), 571.2 (1378)

Blaenau Gwent 307.7 (215), 516.7 (361)

Castell-nedd Port Talbot 273.5 (392), 379.6 (544)

Pen-y-bont ar Ogwr 263.2 (387), 323.0 (475)

Caerffili 235.3 (426), 355.1 (643)

Abertawe 233.6 (577), 408.9 (1010)

Caerdydd 182.9 (671), 292.7 (1074)

Torfaen 162.8 (153), 202.2 (190)

Wrecsam 158.1 (215), 294.2 (400)

Sir Gaerfyrddin 145.7 (275), 183.8 (347)

Sir y Fflint 135.2 (211), 182.6 (285)

Casnewydd 134.5 (208), 198.5 (307)

Powys 128.4 (170), 130.6 (173)

Bro Morgannwg 127.3 (170), 161.7 (216)

Sir Fynwy 112.1 (106), 151.2 (143)

Ceredigion 111.4 (81), 48.1 (35)

Conwy 71.7 (84), 100.7 (118)

Sir Ddinbych 70.0 (67), 131.7 (126)

Gwynedd 53.0 (66), 53.0 (66)

Sir Benfro 50.1 (63), 54.8 (69)

Ynys Môn 48.5 (34), 82.8 (58)