Llun o John Charles ar ganfas
Fe fyddai John Charles yn falch iawn o weld tîm Cymru heddiw sydd ar drothwy sicrhau eu lle mewn twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers 58 mlynedd, yn ôl ŵyr yr arwr pêl-droed.
Dydi Cymru ddim wedi chwarae mewn rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol ers Cwpan y Byd 1958, pan oedd John Charles yn un o sêr y gêm ac yn brif ymosodwr ar y tîm.
Yr wythnos hon fodd bynnag mae disgwyl i genhedlaeth newydd o chwaraewyr sicrhau eu lle yn y llyfrau hanes wrth gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Ac mae Jake Charles, sydd yn ŵyr i John Charles a bellach yng ngharfan dan-21 Cymru, yn siŵr y byddai ei daid wedi bod yn ddyn balch iawn petai’n gallu gweld llwyddiant y garfan heddiw.
Bu farw John Charles yn 2004.
Charles a Bale
Dim ond pwynt sydd ei angen ar Gymru o’r ddwy gêm nesaf yn erbyn Bosnia ac Andorra i sicrhau eu lle yn yr Ewros.
Ac mae Jake Charles yn hyderus bod ‘John Charles’ y tîm presennol, Gareth Bale, yn barod i’w tanio nhw yno.
“Roedd fy nhaid yn Gymro balch iawn ac fe fyddai wedi bod yn falch iawn i weld ble mae Cymru nawr,” meddai Jake Charles.
“Mae wedi bod mor hir ers i ni gyrraedd unrhyw dwrnament, ond mae’n od eich bod chi’n gweld tebygrwydd rŵan i pryd roedd fy nhaid i’n chwarae. Fo oedd y chwaraewr gorau bryd hynny, a nawr mae gan Gymru Gareth Bale sydd yn gymaint o eicon.
“Mae’n cyffroi pobl am bêl-droed Cymru fel roedd fy nhaid i’n ei wneud, ac mae wedi gyrru’r tîm i drothwy bod yn rhan o dwrnament rhyngwladol.”
Y Cawr Addfwyn
Roedd Jake Charles yn wyth oed pan fu farw ei daid yn 2004, ac felly’n dweud nad yw’n cofio rhyw lawer amdano.
Roedd yr ymosodwr, oedd hefyd yn gallu chwarae fel amddiffynnwr, yn seren yn ei ddydd gan dorri’r record drosglwyddo Brydeinig pan symudodd i Juventus yn 1957.
Daeth John Charles yn arwr yn ystod ei gyfnod yn yr Eidal, gan gael ei lysenwi ‘Y Cawr Addfwyn’, a chafodd o erioed gerdyn melyn na choch yn ystod ei yrfa.
Roedd yn rhan o dîm Cymru gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 1958, ond roedd wedi’i anafu ar gyfer y gêm honno pan gollodd Cymru o 1-0 yn erbyn Brasil, aeth ymlaen i ennill y tlws.
“Mae’n bwysau ychwanegol bod yn chwaraewr ifanc a chael pobl yn dweud ‘fo ydi ŵyr John Charles’, ond os ydw i hanner y chwaraewr oedd e fe fyddai’n cael gyrfa dda,” meddai Jake Charles.
Cam i fyny
Bydd tîm dan-21 Cymru y mae Jake Charles yn rhan ohoni yn herio Denmarc heno mewn gêm ragbrofol ar gyfer Pencampwriaethau dan-21 Ewrop yn 2017.
Ac mae’r ffaith bod rhai o’i gyd-chwaraewyr ifanc eisoes wedi cael cyfle i ymarfer â’r tîm cyntaf yn hwb i weddill y garfan, yn ôl ymosodwr Huddersfield.
“Dw i wedi gweld cyn-chwaraewyr dan-21 fel Harry Wilson a Gethin Jones yn bod yn rhan o’r garfan hŷn a ‘dych chi’n meddwl ‘yndi, mae hwnnw’n rhywle y gallen i gyrraedd’,” meddai Jake Charles.
“Mae hyfforddwyr Cymru wastad yn dweud wrthoch chi bod llwybr i’r garfan hŷn ac mae o fyny i chi i roi perfformiadau sydd yn dangos eich bod chi’n ddigon da i wneud y cam yna.”