Caryl Gruffydd Roberts
Mae’r ddynes gynta’ i fod yn feirniad ar raglen Fferm Ffactor S4C yn bendant nad yw’r cynhyrchwyr wedi “esgeuluso merched o gwbl” yn y gorffennol.
Merch ffarm o Ddyffryn Clwyd yw Caryl Gruffydd Roberts ac mae hi ar glawr rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.
Mae gan ferched rôl amlwg yn y diwydiant amaeth yng Nghymru, meddai.
“Dw i’n gweithio yn y diwydiant [amaeth] o ddydd i ddydd efo ffermwyr, efo mudiadau sydd yn byw oddi ar gefn ffermwyr, yn lobïo llywodraethau a mudiadau – ac mae o’n hollol gyfartal, mae merched yn bob man. Does yna ddim unrhyw fath o sblit.”
‘Be’ ddiawl mae hon yn ei wybod am ffermio?!’
Nos Fercher nesaf fe fydd Caryl Gruffydd Roberts i’w gweld yn beirniadu a doethinebu ar Fferm Ffactor, rhaglen sy’n profi gallu ffermwyr mewn gwahanol feysydd megis gosod ffens, gyrru tractor a marchnata cynnyrch.
Dros yr Haf fe briododd Caryl Gruffydd Roberts a bu ei gwaith teledu newydd yn destun hwyl.
“Roedd yna sawl cyfeiriad yn y speeches yn y briodas i’r ffaith bo fi ar Fferm Ffactor,” meddai.
“Ac ychydig o jôcs: ‘Be’ ddiawl mae hon yn ei wybod am ffermio?!’
“O edrych arna fi – mae gen i wallt hir blond a dw i’n licio fy ffasiwn a make-up – dw i ddim y stereotypical crys check a jîns.
“Felly mae o am fod yn ddiddorol iawn gweld sut fydda i’n dod drosodd yn y rhaglen.”
Mwy gan Caryl Gruffydd Roberts yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma.