Mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio pleidlais ar y Bil Llywodraeth Leol yn y Cynulliad oedd wedi cael ei gynllunio ar gyfer heddiw.

Yn ôl y llywodraeth, fe wnaethon nhw’r penderfyniad gan fod angen iddyn nhw drafod ymhellach â’r pleidiau eraill yn y Cynulliad, ac nad oedd brys i gyflwyno’r Bil.

Mae Golwg360 ar ddeall mai pryder y buasen nhw’n colli’r bleidlais oedd yn gyfrifol am benderfyniad Llywodraeth Cymru.

Mae’n debyg fod y gwrthbleidiau yn bwriadu pleidliesio yn erbyn y cynnig.

Fe gafodd gwelliannau i’r Bil eu trafod yr wythnos diwethaf, a’r bleidlais ar Gam 4 heddiw fyddai wedi bod y cam olaf yn y broses.

Mae’r Bil yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru o’r 22 presennol i wyth neu naw.

Fe fyddai’r Bil wedi gadael i gynghorau i uno â’i gilydd yn wirfoddol, ond ddim yn caniatáu i’r Gweinidog Llywodraeth Leol eu gorfodi i wneud.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth ychwanegol fyddai’n ceisio cyflwyno’r newid hwnnw.

Trafod â’r pleidiau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi penderfynu gohirio Cam 4 heddiw, “er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer trafodaethau trawsbleidiol ar y mater.”

“Does dim pwysau amser sydd yn gofyn i ni bleidleisio ar y Bil yr wythnos hon.

“Wrth gyflwyno holl ddeddfwriaeth yn ystod y tymor Cynulliad hwn rydym wedi ceisio, pryd bynnag sydd yn bosib, i weithio gyda phleidiau eraill ac ystyried eu safbwyntiau.

“Dyma’r achos yn fan hyn hefyd, ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno Cam 4 pan ddaw’r amser.”

Yn ôl yr AC Ceidwadol Paul Davies roedd yn credu mai “colli fyddai hanes y bil pe bai’r Llywodraeth wedi mynd ymlaen heb ymgynghori.”

Ychwanegodd:  “Dwi ddim yn gweld pwrpas yn y bil o gwbl. Fe fydd y pleidiau i gyd yn sôn am ddyfodol Llywodraeth leol yn eu maniffestos ar gyfer etholiadau mis Mai nesaf ac ar ôl hynny fe fydd yna bwrpas i ddeddfu yn y maes.”